Gwreiddyn Semitaidd

↔Mae'r rhan fwyaf o ferfau ac enwau yn yr ieithoedd Semitaidd yn deillio o wreiddyn tair cytsain dansoddol. Ni ellir yngan y gwreiddyn cytseiniol hwn ond fe ffurfir ffurfdroadau a geiriau perthynol drwy ychwanegu llafariaid rhwng y cytseiniaid mewn gwahanol gyfuniadau. Mae gan y rhan fwyaf o wreiddiau dair cytsain, ond ceir rhai â dwy neu bedair.

Gwreiddyn tair cytsain golygu

Dyma enghraifft o rai o'r ffurfiau sy'n deillio o'r gwreiddyn tair cytsain k-t-b sydd yn golygu "ysgrifennu" neu "ysgrifen" yn gyffredinol.

Talfyriad Semitologaidd Enw Hebraeg Enw Arabeg Categori morffolegol Ffurf Hebraeg Ffurf Arabeg Cyfieithiad bras
Gwreiddyn berfol G Pa‘al (neu Qal) fa‘ala
فَعَلَ
(Grweiddiad I)
perffaith 3ydd p. unigol gwr. katabh כתב kataba كتب "ysgrifennodd"
perffaith p. 1af lluosog katabhnu כתבנו katabnā كتبنا "ysgrifenasom"
amherffaith 3ydd p. unigol gwr. yikhtobh יכתוב yaktubu يكتب "ysgrifenna"
amherffaith p. 1af lluosog nikhtobh נכתוב naktubu نكتب "ysgrifennwn"
rhangymeriad gweithredol unigol gwr. kotebh כותב kātib كاتب "ysgrifennwr"
Gwreiddyn berfol Š Hiph‘il af‘ala
أَفْعَلَ
(Gwreiddiad IV)
perffaith 3ydd p. unigol gwr. hikhtibh הכתיב ’aktaba أكتب "arddywedodd"
amherffaith 3ydd p. unigol gwr. yakhtibh יכתיב yuktibu يكتب "arddywed"
Gwreiddyn berfol Št(D) Hitpa‘el istaf‘ala
اسْتَفْعَلَ
(Gwreiddyn X)
perffaith 3ydd p. unigol gwr. hitkattebh התכתב istaktaba استكتب "gohebodd" (Hebraeg), "gofynnodd (i rywun) ysgrifennu (rhywbeth), cafodd gopi wedi'i wneud" (Arabeg)
amherffaith 3ydd p. unigol gwr. yitkattebh יתכתב yastaktibu يستكتب "gohebai" (Hebraeg), "gofynnai (i rywun) ysgrifennu (rhywbeth), câi gopi wedi'i wneud" (Arabeg)
Enwau â rhagddodiad m- a llafariaid byrion: maf‘al
مَفْعَل
unigol mikhtabh מכתב maktab مكتب "llythyr" (Hebraeg), "swyddfa" (Arabeg)
Dalier sylw: Seiniau ffonetig unigol yw'r ffrithiolion Hebraeg "kh" a "bh", sef "ch" [χ] a "f" [v] y Gymraeg. Defnyddir y symbolau uchod er mwyn dangos eu cysylltiad â'r gwreiddyn cytseiniol pur.

Tarddiad dwy-gytseiniol rhai o'r gwreiddiau tair-cytseiniol golygu

Noder er bod y rhan fwyaf o'r gwreiddiau yn Hebraeg yn dair-cytesiniol, roedd nifer ohonynt yn ddwy-gytseiniol yn wreiddiol, e.e. y berthynas rhwng גזז √ g-z-z ‘cneifio’, גזמ √ g-z-m ‘ysgythru’ a גזר √ g-z-r ‘torri’ [1]. Mae Ghil'ad Zuckermann yn dadansoddi bod y gwreiddyn Hebraeg שקפ √ sh-q-p "edrych drwy" yn deillio o קפ √ q-p "plygu tuag at" wedi'u rhoi i mewn i'r patrwm berfol shaé. Ymddenys y patrwm hwn yn nifer o ferfau, e.e. שטפ √ sh-ţ-p ‘golchi, gwlychu’, a ddaw o טפ √ ţ-p ‘gwlyb’, yn ogystal â שלכ √ sh-l-k ‘achosi i fyd a ddaw o’ לכ √ l-k ‘mynd’.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gweler tud. 1 Ghil'ad Zuckermann 2003,‘‘Language Contact and Lexical Enrichment in Israeli Hebrew’’ Archifwyd 2014-02-01 yn y Peiriant Wayback., Houndmills: Palgrave Macmillan, (Palgrave Studies in Language History and Language Change, Golygydd y gyfres: Charles Jones). ISBN 1-4039-1723-X.
  2. Gweler tud. 1 Zuckermann, Ghil’ad (2003), Language Contact and Lexical Enrichment in Israeli Hebrew. Palgrave Macmillan. ISBN 9781403917232 / ISBN 9781403938695 (Palgrave Studies in Language History and Language Change, Golygydd y gyfres: Charles Jones).

Gweler hefyd golygu