Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd

Cymeriad chwedlonol Cymreig yw Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd sy'n ymddangos fel un o farchogion y brenin Arthur yn y chwedl Gymraeg gynnar Culhwch ac Olwen.

Ystyr y gair Hen Gymraeg gwalstawd (gwalstod) yw 'lladmerydd, cyfieithydd, dehonglydd',[1] a phrif ran Gwrhyr yn y chwedl yw bod yn lladmerydd a chyfieithydd ar ran Culhwch neu Arthur.

Yn y chwedl, mae Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd yn cael ei ddisgrifio gan Arthur fel gŵr sy'n deall pob iaith, yn cynnwys iaith yr adar a'r anifeiliaid. Ef sy'n annerch y cawr Custennin Heusor a'i wraig ar ran Culhwch. Yn nes ymlaen, gyda Bedwyr, Cai ac Eidoel, mae Gwrhyr yn cael ei anfon ar neges gan Arthur i holi'r Anifeiliaid Hynaf. Ef hefyd sy'n holi Mabon fab Modron yn ei garchar yng Nghaerloyw. Yn yr hanesyn enwog am hela'r Twrch Trwyth mae Gwrhyr yn cael ei yrru gan Arthur i ymddiddan gyda'r Twrch er mwyn darganfod ei hanes. Mae'n ymrithio yn aderyn ac yn glanio ar ysgwydd y Twrch i'w holi.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwasg Prifysgol Cymru, cyfrol II, tud. 1567.
  2. Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988), llinellau 346 et seq..