Gwrthdaro rhwng grwpiau ethnig gwahanol yw gwrthdaro ethnig. Nid yw'r wahaniaeth o ran ethnigrwydd o reidrwydd wrth fôn yr anghydfod – a all fod o natur wleidyddol, cymdeithasol, economaidd, crefyddol, neu ieithyddol – ond byddai ochrau gwrthwynebol y gwrthdaro yn ymgasglu o amgylch eu grŵp berthnasol.[1][2] Gall gymryd ffurf ymgyrch wleidyddol heddychlon, anhrefn sifil a therfysgoedd, neu wrthryfel arfog neu ryfel. Gall ddigwydd y tu mewn i un wlad, rhwng lluoedd un wladwriaeth a gwladwriaeth arall, neu rhwng cymunedau neu luoedd ar draws ffiniau. Mae mudiadau gwleidyddol megis cenedlaetholdeb, iredentiaeth, ac ymwahaniaeth yn annog grwpiau ethnig i frwydro am eu hunanbenderfyniaeth.

Ffotograff gan Mikhail Evstafiev o Tsietsniad yn gweddïo yn ystod Brwydr Grozny (Rhyfel Cyntaf Tsietsnia) yn 1995.

Amrywiaeth eang o agweddau ac amodau sydd yn achosi gwrthdaro ethnig. Weithiau gall grŵp gyfoethog ddymuno hunanlywodraeth oddi ar y bobloedd cyfagos, megis y Catalwniaid yn Sbaen, a mewn achosion eraill mae grŵp dlawd yn ymgeisio i wella'i sefyllfa, er enghraifft y Karen ym Myanmar. Gall hunaniaeth ethnig ddatblygu i raddau eithafol, goruchafiaeth hiliol neu gred mewn mythau cenedlaethol ac eithriadoldeb, er enghraifft y syniad o Dynged Amlwg a gafodd ei defnyddio gan Americanwyr gwynion yn eu rhyfeloedd yn erbyn pobloedd brodorol Gogledd America. Mae cwynion hanesyddol, boed yn wir neu'n honedig, yn fynych yn peri gwrthdaro ethnig. Er enghraifft, dadleuai'r Hutu yn Rwanda taw troseddau yn eu herbyn oedd y cyfiawnhâd am ladd 500,000–1,000,000 o Tutsi yn 1994. Weithiau ymgyrch neu frwydr am annibyniaeth neu ymreolaeth yw gwrthdaro ethnig, megis Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon.

Gall gwrthdaro ethnig achosi argyfyngau dyngarol eang, megis niferoedd mawr o ffoaduriaid, glanhau ethnig, ac hil-laddiad. Yn aml bydd gwrthdaro arfog rhwng grwpiau ethnig o fewn yr un wlad yn arwain at ryfel cartref, ac o bosib yn chwalu'r wladwriaeth amlethnig, megis y "Balcaneiddio" o ganlyniad i Ryfeloedd Iwgoslafia yn y 1990au. Gall y fath wrthdaro effeithio ar wledydd cyfagos ac ansefydlogi'r ardal ehangach, er enghraifft hil-laddiad Rwanda a achosodd argyfwng ffoaduriaid y Llynnoedd Mawr. Yn aml mae'n gymhelthach o lawer i ddod â therfyn i ryfeloedd ethnig nag i ryfeloedd confensiynol rhwng gwladwriaethau, oherwydd nid materion gwleidyddol yn unig sydd angen eu datrys.

Cyfeiriadau golygu

  1. Varshney, Ashutosh (2002). Ethnic Conflict and Civic Life : Hindus and Muslims in India. New Haven: Yale University Press.
  2. Kaufman, Stuart J. (2001). Modern Hatreds: The Symbolic politics of ethnic war. Ithaca: Cornell University. Press. tt. 17.