Gwyddor gwybodaeth

Disgyblaeth academaidd a maes rhyngddisgyblaethol sy'n ymwneud â chynhyrchiad, casgliad, trefniadaeth, storfa, adalwad, a lledaeniad gwybodaeth cofnodedig yw gwyddor gwybodaeth. Mae'n astudio cymhwysiad a defnydd gwybodaeth o fewn cyfundrefnau, a'r rhyngweithiad rhwng pobl, cyfundrefnau, a systemau gwybodaeth. Yn aml, astudir gwyddor gwybodaeth fel cangen o gyfrifiadureg neu wybodeg ac mae ganddo berthynas agos â'r gwyddorau cymdeithas a gwybyddol.

Mae gwyddor gwybodaeth yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth problemau yn gyntaf, ac yna cymhwyso technoleg gwybodaeth (neu dechnolegau eraill) fel bo'r angen. Mae sylw wedi cael ei roi yn y blynyddoedd diweddar i ryngweithiad dynol-cyfrifiadurol, cylchwedd, y we semantig, a'r ffyrdd mae pobl yn cynhyrchu, defnyddio a darganfod gwybodaeth.

Weithiau caiff gwyddor gwybodaeth ei chymysgu â llyfrgellyddiaeth, cyfrifiadureg, gwybodeg, a theori gwybodaeth, ac yn aml caiff ei grwpio gydag un o'r pynciau yma (gan amlaf llyfrgellyddiaeth, neu gyfrifiadureg).

Hanes golygu

Darganfyddir gwreiddiau gwyddor gwybodaeth yn nogfennaeth, ym maes a yn natblygiad cyfrifiaduron digidol yn yr 1940au a dechrau'r 1950au. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ymddangosodd yr angen i fwyhau trachywiredd a dyfnder chwiliadau llyfryddiaethol, ac arweiniodd hyn at ymdrechion i newid y dulliau traddodiadol o ddosbarthu. Cyflwynwyd ymchwiliad ffeiliau, mynegai cyd-gysylltiedig, a geirfâu rheoledig yn otomatig fel ymateb i'r angen cynyddol i greu mynediad hawdd i gynnwys cylchgronau gwyddonol. Cafodd crynodebau otomatig o ddogfenni eu datblygu i'w gwneud hi'n haws trin a thrafod darganfyddiadau ymchwil.

Yn yr 1960au trosglwyddwyd casgliadau enfawr o ddogfenni i gronfeydd data neu ffurfiau di-argraffedig, er mwyn medru chwilio trwy'r holl wybodaeth (gan ddefnyddio cyfrifiadur) yn hawdd. Erbyn 1980 roedd gwyddor gwybodaeth yn faes cyd-ddisgyblaethol, a gwelwyd twf mewn meysydd megis deallusrwydd artiffisial a thecholeg gwybodaeth o fewn addysg wedi dod yn bwysig iawn.

Ffynonellau golygu

  • Microsoft Encarta Encyclopedia

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu