Math o wydr sy'n cynnwys plwm yn lle'r calsiwm a gwie mewn gwydr golchludw neu potash yw gwydr plwm (hefyd gwydr crisial).[1] Mae gwydr plwm fel arfer yn cynnwys 18–40% (yn ôl pwysau) o blwm(II) ocsid (PbO), tra bod plwm crisial, sydd hefyd wedi'i adnabod fel gwydr fflint oherwydd y ffynhonnell silica wreiddiol, yn cynnwys isafswm o 24% PbO.[2] Mae gwydr plwm yn ddymunol[3] oherwydd ei nodweddion addurnol.

Darn o waith gwydr "crisial"

Cafodd y dechneg o ychwanegu plwm ocsid fel dull o wella ymddangosiad gwydr ei darganfod gan y Sais George Ravenscroft yn 1674. Roedd gwydr oedd yn cynnwys rhwng 10 a 30% plwm ocsid hefyd yn haws i'w doddi gan ddefnyddio glo môr fel tanwydd ffwrnais. Roedd y dechneg hon hefyd yn cynyddu'r "cyfnod gweithio" gan wneud y gwydr yn haws i'w drin a'i siapio.

Nid yw'r term crisial plwm, yn dechnegol, yn gywir i ddisgrifio gwydr plwm, gan nad oes gan wydr fel solid amorffaidd strwythur crisialaidd. Er hynny, mae'r defnydd o'r term yn dal i fod yn boblogaidd am resymau hanesyddol a masnachol. Daw o'r gair Fenisaidd cristallo i ddisgriio'r carreg grisial sy'n cael ei dynwared gan wneuthurwyr gwydr Murano.[4]

Roedd llestri gwydr plwm crisial yn arfer cael eu defnyddio i storio a gweini diodydd, ond mae hyn yn llai cyffredin erbyn hyn oherwydd fod gan blwm beryglon iechyd. Un deunydd amgen yw gwydr crisial, sy'n cynnwys bariwm ocsid, sinc ocsid, neu potasiwm ocsid yn lle plwm ocsid. Mae gan grisial di-blwm fynegrif plygiant tebyg i grisial plwm, ond mae'n ysgafnach ac mae ganddo lai o rym gwasgarol.[5]

Yn yr Undeb Ewropeaidd, mae labelu cynnyrch "crisial" yn cael ei reoleiddio gan Gyfarwyddeb Cyngor 69/493/EEC, sy'n diffinio pedwar categori, gan ddibynnu ar gyfansoddiad cemegol a nodweddion y deunydd. Rhaid i gynnyrch gwydr gynnwys 24% o blwm ocsid cyn y gall gael ei alw yn "grisial plwm". Rhaid i gynnyrch sy'n cynnwys llai na hynny o blwm ocsid, neu gynnyrch gwydr sydd ag ocsidiau metel eraill yn lle plwm ocsid, gael ei labelu fel "crystalin" neu "wydr crisial".[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Newton, Roy G.; Sandra Davison (1989). Conservation of Glass. Butterworth – Heinemann Series in Conservation and Museology. London: Butterworths. ISBN 0-408-10623-9.
  2. Hurst-Vose, Ruth (1980). Glass. Collins Archaeology. London: Collins. ISBN 0-00-211379-1.
  3. Benvenuto, Mark Anthony (2015-02-24). Industrial Chemistry: For Advanced Students (yn Saesneg). Walter de Gruyter GmbH & Co KG. ISBN 9783110351705.
  4. Tait, Hugh, gol. (2004). Five Thousand Years of Glass. University of Pennsylvania Press (orig. British Museum Press). ISBN 978-0-8122-1888-6.
  5. "About Lead-free Crystal". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-21. Cyrchwyd 2018-10-07.
  6. "Council Directive 69/493/EEC of 15 December 1969 on the approximation of the laws of the Member States relating to crystal glass".