Acronym am HyperText Transfer Protocol yw HTTP. Dyma'r protocol cyfathrebu a ddefnyddir i gydgysylltu gwasanaethyddion ar y We. Prif weithrediad HTTP yw sefydlu cysylltiad â gwasanethydd gwe a throsglwyddo tudalennau HTML i'r porwr client neu unrhyw ffeiliau eraill sydd eu hangen gan aplicant HTTP.

HTTP
Enghraifft o'r canlynolcomputer network protocol Edit this on Wikidata
Mathcomputer network protocol Edit this on Wikidata
Rhan oInternet protocol suite, Y we fyd-eang Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1990 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1989 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHTTP request, HTTP response Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://httpwg.org/specs/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae cyfeiriadau gwefannau yn cychwyn â'r rhagosodiad http:// ond erbyn heddiw mae porwyr gwe yn cyflwyno'r protocol hynny'n ddiofyn. Felly mae teipio www.wikipedia.org ym mar cyfeiriad eich porwr yn gyfystyr â theipio http://www.wikipedia.org er enghraifft.

Diffinnir HTTP fel system gofyn/ymateb "digyflwr"; h.y. nid yw'n bod ond am yr amser sydd ei angen er mwyn gwneud trosglwyddiad data, meicro-eiliad efallai, ac ar ôl hynny mae'n cau. Wedi i orchymyn gofyniad y client HTTP gyrraedd y gwasanaethydd mae cysylltiad TCP yn cael ei greu ac mae'r gwasanethydd yn anfon ei ymateb ac yn cau'r cysylltiad HTTP.

Erbyn hyn mae fersiwn HTTP 1.1 wedi cymryd lle'r fersiwn gwreiddiol HTTP 1.0. Mae hyn wedi caniatau mewnlwytho lluosog ac wedi gwella'r broses storio cache a'i gwneud hi'n haws i greu lletywyr rhithiol.