Haeniad cymdeithasol

Ffordd o gategoreiddio pobl yn ddosbarthiadau ar sail ffactorau economaidd-gymdeithasol megis cyfoeth, incwm, hil, addysg, ethnigrwydd, rhywedd, galwedigaeth, statws cymdeithasol, neu rym gwleidyddol yw haeniad cymdeithasol. Fel agwedd sefydlog o gymdeithas, gellir ei ddiffinio yn broses o systemateiddio anghydraddoldebau'r unigolyn, pennu iddynt werth, a'u trefnu yn batrymau a gydnabyddir gan unigolion eraill. Wrth astudio haeniad cymdeithasol, dosberthir yr unigolyn ar sail ei safle cymdeithasol yn berthynol i unigolion eraill mewn grŵp cymdeithasol, ardal ddaearyddol, neu uned ddadansoddi.

Patrwm nodweddiadol o ddiffinio haeniad cymdeithasol, yn enwedig mewn cymdeithasau modern yn y Gorllewin, ydy'r tri dosbarth sylfaenol: y dosbarth uchaf, y dosbarth canol, a'r dosbarth isaf; a gellir isrannu'r dosbarthiadau hynny yn haenau uchaf, canol, ac isaf. Gellir hefyd ffurfio haenau cymdeithasol ar sail carennydd, clan, llwyth, neu gast, neu gyfuniad ohonynt.

Mae dwy ddamcaniaeth gyffredinol o haeniad cymdeithasol: yr esboniad swyddogaethol ar sail gwaith Émile Durkheim a Talcott Parsons; a'r agwedd Farcsaidd, sydd yn tynnu hefyd ar syniadaeth Jean-Jacques Rousseau a Pierre-Joseph Proudhon, sydd yn canolbwyntio ar rym. Yn ôl y swyddogaethwyr, mae pob cymdeithas yn anochel yn graddio gweithgareddau ei haelodau er mwyn gwerthfawrogi'r swyddogaethau pwysicaf, ac angenion swyddogaethol felly sydd wrth wraidd haeniadau cymdeithasol. Dadleua'r Marcswyr bod haeniad yn amlygu gwahaniaethau grym ac felly anghydraddoldeb yn y gymdeithas, ac awgrymant bod y sefyllfa honno dan drefn cyfalafiaeth yn anghyfiawn.