Darganfuwyd Grenada gan Christopher Columbus ym 1498, a alwodd yr ynys yn Concepción. Ymsefydlodd y Ffrancod yno yng nghanol yr 17g ond cafodd ei hildio i Brydain yn sgil Cytundeb Paris ym 1763, ei hailgipio gan Ffrainc ym 1779 a'i hildio unwaith eto i Brydain ym 1783. Crewyd Trefedigaeth y Goron ym 1877 ac enillodd Grenada ei hannibyniaeth ar Brydain ym 1974.

Bu ansefydlogrwydd gwleidyddol a milwrol yng Ngrenada ym 1983 a chafodd y Prif Weinidog Marcsaidd Maurice Bishop ei ladd. Goresgynnwyd yr ynys gan yr Unol Daleithiau a'r OECS i geisio sefydlogi'r sefyllfa.


Eginyn erthygl sydd uchod am Grenada. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.