Hanes celf y Gorllewin

Paentiadau mewn ogofâu a modelau bychain o anifeiliaid a ffigurynnau benywol yw'r celfyddyd-weithiau cynharaf. Enghraifft o gelfyddyd Baleolithig yw Gwener Willendorf, cerflun yn ei grynder o ferch lond ei chroen sy'n symbol o ffrwythlondeb. Erbyn y cyfnod Neolithig, roedd pobl yn codi adeiladwaith carreg a henebion, megis y gromlech a strwythurau post a chapan.

Gwener Willendorf (tua 28,000–25,000 CC).

Yn ystod yr Henfyd, ymddangosodd celfyddyd grefyddol, celfyddyd frenhinol, cerfwedd, a cholofnau yn gyntaf yn y Dwyrain Agos. Dangosir syniadaeth grefyddol a mytholegol hefyd gan ddiwylliannau Môr Canoldir. Amlygir delfryd anfarwolaeth yn yr Hen Aifft gan ddefnydd carreg fel uned adeiladu ac arwyneb arlunio. Ceir olion o gelfyddyd y gwareiddiad Egeaidd, megis Ffresgo'r Toreador (Minoa) a Phorth y Llewod (Mycenae). Arloesodd yr Hen Roegwyr y dulliau a elwir heddiw yn "glasurol", gyda ffurfiau delfrydol o'r corff dynol, gan gynnwys y dyn noeth, a phensaernïaeth colofnau yn y dulliau Dorig, Ïonaidd a Chorinthaidd. Datblygwyd eu dulliau a thechnegau gan y Rhufeiniaid, sy'n enwog am eu brithweithiau a cherfluniau marmor.

Yn yr Oesoedd Canol, crefydd oedd pwrpas ac ysbrydoliaeth y mwyafrif o gelfyddyd yn Ewrop. Wrth i Gristnogaeth ledu ar draws y Dwyrain Agos ac i mewn i Ewrop, defnyddiwyd celfyddyd i fynegi a chynrychioli'r ffydd. Nod y gelfyddyd Fysantaidd yw darlunio gofod gwastad gyda ffigurau o'r tu blaen. Darluniodd mynachod lawysgrifau addurnedig a goliwiedig ym mhob cwr y Gristionogaeth, a lledodd celfyddyd Islamaidd ym Mhenrhyn Iberia dan reolaeth y Mwriaid. Oes yr eglwysi cadeirol oedd yr Oesoedd Canol Uwch: codwyd eglwysi ac addoldai yn yr arddulliau Romanésg a Gothig, megis Eglwys Gadeiriol Amiens.

Ar y cyd â datblygiadau deallusol yr Oesoedd Canol Diweddar, atgyfodwyd elfennau clasurol gan arlunwyr a cherflunwyr y Dadeni. Dychwelodd noethni i gelfyddyd Ewrop, a darluniwyd mytholeg Roeg a Rhufeinig yn ogystal â golygfeydd o'r Beibl a bywydau'r seintiau. Roedd hefyd tueddiadau seciwlar yn ystod y Dadeni, gan bortreadu realedd natur. Datblygodd technegau pwysig, yn enwedig yn yr Eidal, megis persbectif, chiaroscuro, a sfumato. Ymddangosodd pynciau mwy cyffredinol yng nghelfyddyd Gogledd Ewrop a'r peintio Iseldiraidd cynnar: natur, gwaith, a bywyd pob dydd. Yn ystod y Gwrth-Ddiwygiad, darluniodd arlunwyr Catholig naws deimladol a delw-arluniaeth yn eu celfyddyd-weithiau. Roedd yr arddull Baróc yn boblogaidd ar draws Ewrop, ond yn llai addurnedig yn y gwledydd Protestannaidd.

Les Joueurs de cartes gan Paul Cézanne (1892–1895). Cafodd farciau brws adeiladol Cézanne cryn ddylanwad ar fynegiadaeth a chiwbiaeth ddadansoddol.

Adeg yr Oleuedigaeth, adfywiodd nifer o'r hen arddulliau, yn bennaf Gothig a chlasurol, a datblygodd ffurf newydd ar realaeth. Cafwyd dylanwadau pwysicach gan y mudiad Rhamantaidd: tirluniau llawn awyrgylch, portreadau o'r gorffennol, golygfeydd estron (er enghraifft, dwyreinioldeb), cynrychioli dosbarth cymdeithasol, a symboleiddio cyfiawnder cymdeithasol a gwleidyddiaeth chwyldroadol. Yn ail hanner y 19eg ganrif, Argraffiadaeth ac Ôl-argraffiadaeth oedd y prif fudiadau arlunio.

Roedd yr 20g yn gorwynt a thawddlestr o fudiadau: yr avant-garde, ffofyddiaeth, celfyddyd ddi-ffiguraidd, ciwbiaeth, gludwaith a chydosodiad, celfyddyd fideo a digidol, dyfodolaeth, Dada, swrealaeth, mynegiadaeth haniaethol, celfyddyd bop, Minimaliaeth, cysyniadolaeth, celfyddyd gorfforol, celfyddyd berfformiadol, ac ôl-foderniaeth.

Cyfeiriadau golygu