Hanes diwylliannol

Maes rhyngddisgyblaethol sy'n cyfuno hanes ac anthropoleg yw hanes diwylliannol. Ymdrecha'r hanesydd diwylliannol i ddeall y profiad hanesyddol drwy gysyniadau a themâu megis cynrychiolaeth ac ystyr.

Gellir olrhain gwreiddiau'r maes yn ôl i'r Dadeni ac ysgolheictod y cyfnod hwnnw ar hanes llenyddiaeth ac athroniaeth. Bathodd yr Almaenwyr Kulturgeschichte yn hwyr y 18g, gan adeiladu ar ystyriaethau y cysyniad diwylliant gan Leibniz ac eraill. Roedd yr astudiaethau diwylliannol cynnar hyn yn Ewro-ganolog ac yn cyferbynnu gwareiddiad Ewrop ag anwaredd y gwledydd "cyntefig". Yn hwyrach datblygodd y syniad taw gwerth neu ysbryd sy'n berthnasol i'r holl ddynoliaeth yw diwylliant. Canolbwyntiodd Adelung ar berthynas iaith a diwylliant, a thrafododd yr athronydd Herder lwyddiannau deallusol o safbwynt athroniaeth feirniadol.[1]

Ffrwydrodd y maes yn y 19g a chyhoeddwyd amrywiaeth eang o lyfrau ar bob cyfnod, ardal, a phwnc. Dechreuodd haneswyr ystyried agweddau arbenigol, gan gynnwys bywydau'r bobloedd gynhanesyddol ac ethnograffeg. Ehangodd cwmpas hanes diwylliannol ac aeddfedodd ei ddulliau'n sylweddol yn hwyr y 19g yn sgil ymgorffori anthropoleg â'r maes. Ymsefydlodd ei safle academaidd ar sail llyfryddiaeth eang a sawl cyfnodolyn, ond daeth yn bwnc dadl gan ambell hanesydd. Cafwyd adwaith gan haneswyr gwleidyddol a fynodd blaenoriaeth yr agwedd boliticaidd yn hanesyddiaeth. Karl Lamprecht oedd y prif hanesydd diwylliannol yn y cyfnod hwn, ond hefyd yn ysgolhaig dadleuol am iddo amgyffred seicoleg yn ei waith.[1]

Datblygodd y maes modern yn yr 20g ar sail gweithiau'r Ffrancod Lucien Febvre a Marc Bloch, a ddylanwadodd hefyd hanes cymdeithasol. Arloesodd efrydiau'r mentalités, sy'n astudio credoau ac ofergoelion. Adeiladodd ysgolheigion Seisnig ac Americanaidd ar y dechneg hon mewn gweithiau ar gred mewn hudoliaeth ac erledigaeth gwrachod.[2] Noder hanesyddiaeth ddiwylliannol gynnar y ganrif gan duedd gyfaniaeth a'r cymhelliad i gynnwys hanes popeth. Ymdrechodd haneswyr i ymgymhwyso'r maes drwy ganolbwyntio ar ddadansoddiad yn ogystal â chyfosodiad.[1] Roedd y twf yn astudiaethau menywod yn hollbwysig yn natblygiad hanes diwylliannol yng nghanol y ganrif.[3] Ffurf boblogaidd ar hanes diwylliannol yn y 1980au oedd "microhanes": stori am unigolyn neu garfan fechan o bobl.[2] Yn ystod y Rhyfel Oer, astudiodd nifer o ysgolheigion y maes o safbwynt Marcsaidd neu faterolaidd, neu'n rhoi pwyslais trwm ar economeg gymdeithasol. Ers hynny, mae'r hanes diwylliannol newydd wedi cefnu ar y fath ysgolion meddwl ac yn ystyried amrywiaeth anferth o bynciau pob dydd, megis tor-cyfraith, plentyndod, hiwmor, a gwallgofrwydd. Ceir perthynolaeth yn hanes diwylliannol a wrthodir gan feysydd eraill hanesyddiaeth, ac mae'r hanesydd diwylliannol fel rheol yn anwybyddu rhydwythiaeth economaidd a gwleidyddol ac yn cydnabod taw nod amhosibl yw gwrthrychedd.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) "Cultural History" yn y New Dictionary of the History of Ideas (Gale, 2005). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 8 Ionawr 2017.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) historiography: Social and cultural history. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Ionawr 2017.
  3. (Saesneg) Miri Rubin. Cultural history: what's in a name?. Adalwyd ar 6 Ionawr 2017.

Darllen pellach golygu

  • Peter Burke. What is Cultural History? (2004).
  • Clifford Geertz. The Interpretation of Cultures: Selected Essays (1973).
  • E. H. Gombrich. In Search of Cultural History (1969).