Hanes y delyn yng Nghymru

delyn yw offeryn traddodiadol Cymru, lle mae llinach di-dor o delynorion yn ymestyn yn ôl cyn belled â'r 11g os nad ynghynt. Ychydig a wyddom am darddiad yr offerynnau cynnar hyn, ond yn ffodus mae rhai manylion wedi'u cofnodi mewn cerddi cynnar. Yn un o'r rhain, roedd y bardd yn dilorni'r tannau coludd ffasiwn newydd, a ddefnyddid yn lle'r tannau traddodiadol o rawn wedi'i blethu.

Mae enghreifftiau o delynau teires a wnaed yn LlanoferLlanrwst, yn ogystal â rhai a wnaed gan  Bassett-Jones o Gaerdydd, yn cael eu harddangos yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar gyrion Caerdydd.

Tua chanol y 1960au, bu adfywiad yn y grefft o saernïo telynau Celtaidd a thelynau teires, yn cael ei arwain gan J.W. (John) Thomas o Waelod y Garth ger Ffynnon Taf. Bu farw John Thomas ym 1992, ond roedd wedi trosglwyddo'i grefft i sawl prentis. Yn 2004, sefydlodd un o'r prentisiaid hyn, Allan Shiers, gwmni Telynau Teifi Harps  yn Llandysul; mae'r cwmni hwn yn dal i gynhyrchu telynau gwerin a Cheltaidd.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu