Hanes yr Undeb Ewropeaidd

Ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd hinsawdd wleidyddol Ewrop o blaid uno'r cyfandir. Gwelid hyn gan lawer o bobl fel dianc o'r cenedlaetholdeb eithafol oedd wedi bod mor arswydus. Digwyddodd un ymgais o'r fath ym 1951 pan sefydlwyd y Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur (CEGD) gan Gytundeb Paris. Er ei bod â'r amcan gwylaidd o reoli'n ganolog diwydiannau glo a dur ei haelod-wladwriaethau, datganwyd bod y Gymuned yn "gam cyntaf yn ffederasiwn Ewrop". Aelodau gwreiddiol y Gymuned oedd: Gwlad Belg, Ffrainc, yr Eidal, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd a Gorllewin yr Almaen.

Crëwyd dwy gymuned ychwanegol ym 1957 gan Gytundebau Rhufain: y Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE), yn sefydlu undeb tollau, a'r Gymuned Ewropeaidd Ynni Atomig (Euratom) ar gyfer cydweithrediad mewn materion o ynni niwclear. Ym 1967, creodd y Cytundeb Cyfuno un set o sefydliadau ar gyfer y tair cymuned, y cyfeirid atynt yn gyfunol fel y Cymunedau Ewropeaidd neu, yn fwy cyffredin, y Gymuned Ewropeaidd (CE).

Ym 1973, ehangwyd y Cymunedau Ewropeaidd i gynnwys Denmarc, Iwerddon a'r Deyrnas Unedig. Cynhaliwyd yr etholiadau uniongyrchol a democrataidd cyntaf o aelodau Senedd Ewrop ym 1979.

Ymunodd Gwlad Groeg, Sbaen a Phortiwgal yn y 1980au. Ym 1985, datblygwyd Cytundeb Schengen rhwng gwladwriaethau Ewropeaidd er mwyn caniatáu dileu rheolaethau ffin rhwng y gwledydd cyfranogol. Ym 1986, mabwysiadwyd baner Ewrop a llofnododd arweinwyr Ewropeaidd y Ddeddf Ewropeaidd Sengl, oedd i fod i leihau rhwystrau masnach a chyflwyno cydweithrediad gwleidyddol Ewropeaidd. Ym 1990, ar ôl cwymp y Llen Haearn, daeth Dwyrain yr Almaen yn rhan o'r Gymuned fel rhan o'r Almaen wedi'i haduno. Gydag ehangu tuag at ddwyrain Ewrop ar yr agenda, cytunwyd ar y Meini Prawf Copenhagen ar gyfer gwledydd oedd yn dymuno ymuno â'r Gymuned.

Sefydlwyd yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn ffurfiol pan ddaeth Cytundeb Maastricht i rym ar 1 Tachwedd 1993. Ymunodd Awstria, Sweden a'r Ffindir â'r UE ym 1995. Diwygiodd Cytundeb Amsterdam, a lofnodwyd ym 1997, Gytundeb Maastricht mewn meysydd megis democratiaeth a pholisi tramor. Dilynwyd Cytundeb Amsterdam gan Gytundeb Nice 2001, a wnaeth newidiadau i Gytundebau Rhufain a Maastricht er mwyn caniatáu i'r UE weithio'n well ar ôl ehangu i'r dwyrain. Yn 2002, disodlodd papurau a darnau arian ewro yr arian cyfredol cenedlaethol mewn 12 o'r aelod-wladwriaethau. Ymunodd deg gwlad newydd (gan gynnwys wyth oedd gynt wedi bod yn wledydd comiwnyddol) â'r UE yn 2004.

Llofnodwyd y Cyfansoddiad Ewropeaidd yn Rhufain yn 2004. Roedd ef i fod i ddisodli'r holl gytundebau blaenorol ag un ddogfen. Serch hynny, ni chwblhaodd erioed y broses o gadarnhau ar ôl cael ei wrthod mewn refferenda yn Ffrainc a'r Iseldiroedd. Yn 2007, cytunodd arweinwyr yr UE ddisodli'r cynnig hwnnw â chytundeb newydd, sef Cytundeb Lisbon, a fyddai'n diwygio'r cytundebau presennol yn lle eu disodli. Ar ddechrau 2007, daeth Rwmania a Bwlgaria yn aelodau'r UE, a mabwysiadodd Slofenia yr ewro. Croatia yw'r wladwriaeth ddiweddaraf i ymuno â'r UE, a hynny ar 1 Gorffennaf 2013.

Gweler hefyd golygu

Cytundebau, strwythur a hanes yr Undeb Ewropeaidd
1951/1952 1957/1958 1965/1967 1992/1993 1997/1999 2001/2003 2007/2009 (?)
U N D E B   E W R O P E A I D D   ( U E )
Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur (CEGD)
Cymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE) Cymuned Ewropeaidd (CE)
Cymuned Ewropeaidd Ynni Atomig (Euratom)
Tair Cymuned Ewropeaidd: CEGD, CEE ac Euratom Cyfiawnder a Materion Cartref  
Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol
mewn Materion Trosedd
Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin (PTDC)
Cytundeb Paris Cytundebau Rhufain Cytundeb Cyfuno Cytundeb Maastricht Cytundeb Amsterdam Cytundeb Nice Cytundeb Lisbon

"Tri philer yr Undeb Ewropeaidd"
(y Cymunedau Ewropeaidd, y PTDC, a Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol)