Hanesyddiaeth yr Ail Ryfel Byd

Cafodd yr Ail Ryfel Byd (1939–1945) effaith sylweddol ar hanes y byd, ac ers ei derfyn mae hanesyddion a hefyd awduron, athronwyr, ac eraill wedi datblygu nifer o ddehongliadau amrywiol o agweddau'r rhyfel, gan greu hanesyddiaeth eang.

Hanesyddiaeth yr Ail Ryfel Byd
Enghraifft o'r canlynolhanesyddiaeth Edit this on Wikidata

Achosion y rhyfel golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cyrchoedd awyr golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Yr Holocost golygu

Ers i'r Holocost dod i'r amlwg, mae hanesyddion wedi dadlau dros sut daeth y gwersylloedd difa i fod. Yn gyffredinol bu un garfan, y bwriadwyr, yn honni taw amcan Adolf Hitler o'r cychwyn oedd i ddifa'r Iddewon yn systematig, tra bo carfan y strwythurwyr yn dadlau nad hyn oedd y bwriad ond daeth yr Holocost o ganlyniad i amgylchiadau yn y rhyfel a gwnaed nifer o'r penderfyniadau gan swyddogion islaw yn y Blaid Natsïaidd. Mae eraill yn credu mewn synthesis o'r ddau safbwynt hwn.

Ceir hefyd dadleuon dros i ba raddau roedd poblogaeth gyffredin yr Almaen yn ymwybodol o'r gwersylloedd crynhoi, ac i ba raddau roedd y Cynghreiriaid yn ymwybodol o'r Holocost yn ystod y rhyfel ac oes oedden pam na wnaethon nhw bomio'r gwersylloedd difa neu'r rheilffyrdd oedd yn arwain atynt.

Mae rhai pobl hefyd yn gwadu'r Holocost i raddau neu yn hollol, ond ystyrid hyn yn ffug-hanes.

Y bomiau atomig golygu

Yn Awst 1945, gollyngodd yr Unol Daleithiau fomiau atomig ar ddinasoedd Hiroshima a Nagasaki yn Japan er mwyn ceisio dod â'r rhyfel yn y Môr Tawel i ben. Dadleir dros foesoldeb defnyddio'r bomiau atomig, gan fu farw 150,000–246,000 o bobl.