Hanmer

pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam yw Hanmer. Gorwedd yn ardal Wrecsam Maelor, tua phum milltir i'r gorllewin o dref Whitchurch, dros y ffin yn Lloegr, a 10 milltir i'r de-ddwyrain o dref Wrecsam. Mae'n enwog am ei eglwys hynafol a gysegrir i Sant Chad.

Hanmer
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth665 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,822.24 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9513°N 2.8124°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000229 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ455396 Edit this on Wikidata
Map

Tua dwy cilometr i'r gogledd-ddwyrain saif hen domen mwnt a beili Castell Cop.

Hanes golygu

Gorwedd Hanmer yn hen gwmwd Maelor Saesneg. Bu'n rhan o deyrnas Powys Fadog yn yr Oesoedd Canol.

Ganed y rhyfelwr enwog Mathau Goch (1386 - 1450) yn Hanmer yn 1386, yn fab i Owain Goch (neu Gough), beili Hanmer yng nghantref Maelor. Roedd mam Mathau yn ferch i David Hanmer, yntau'n frodor o'r pentref. Roedd rhai o'r teulu yn gefnogol iawn i Owain Glyndŵr. Priododd y tywysog hwnnw ei wraig Margaret Hanmer yn 1383, yn Hanmer.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Hanmer (pob oed) (665)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Hanmer) (47)
  
7.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Hanmer) (285)
  
42.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Hanmer) (90)
  
32.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Gweler hefyd golygu