Hannah Daniel

actores a aned yn 1986

Actores o Gymraes yw Hannah Daniel (ganwyd 20 Ionawr 1986)[1], sy'n adnabyddus am ei rhannau ar gyfresi teledu Y Gwyll ac Un Bore Mercher.

Hannah Daniel
Ganwyd20 Ionawr 1986 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
Taldra165 centimetr Edit this on Wikidata
TadEmyr Daniel Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Fe'i ganwyd yn Ysbyty'r Waun a'i magwyd yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Mae ganddi frawd hŷn Mathew a chwaer iau, Beca.[2] Ei thad oedd y darlledwr Emyr Daniel.[3]

Mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd ac fe astudiodd Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Prifysgol Llundain.[1]

Bywyd personol golygu

Mae'n byw yn Llundain gyda'i phartner Richard Harrington. Ar ddiwedd 2019 ganwyd eu mab, Moris Emyr.[4]

Ffilmyddiaeth golygu

Teledu golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2005 Dad Millie James Ffilm deledu
2005 Casualty Dee Naseby Pennod: Baby Love
2008 Y Garej Cyd-gyflwynydd
2010 Pen Talar Gail
2011–2015 Gwaith Cartref Beca Matthews Prif ran
2015 Doctors Christina Evenden Pennod: Trust Me I’m a Doctor
2013–2016 Y Gwyll DS Siân Owen Prif ran; hefyd yn rhan o’r fersiwn Saesneg Hinterland.[5]
2017–presennol Un Bore Mercher Cerys Jones Prif ran; hefyd yn rhan o’r fersiwn Saesneg Keeping Faith.
2018 Holby City Leah Faulkner
2018 The Tourist Trap Andi
2018 Morfydd Beti Bwt
2019 EastEnders DCI Morgan

Ffilm golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2014 Benny and Jolene Strictly Sherry
2015 Black Mountain Poets Alys Wilding

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Taflu golau ar un o sêr Y Gwyll: Hannah Daniel Archifwyd 2016-01-16 yn y Peiriant Wayback.; Pobl Caerdydd; Adalwyd 2015-12-29
  2.  Taflu golau ar un o sêr Y Gwyll: Hannah Daniel. Pobl Caerdydd (22 Medi 2015). Adalwyd ar 8 Hydref 2020.
  3. 'Gymrodd flynyddoedd i fi allu delio gyda'r peth' , BBC Cymru Fyw, 6 Hydref 2020. Cyrchwyd ar 8 Hydref 2020.
  4. Hannah Daniel: Gwaith, gyrfa a bod yn fam , BBC Cymru Fyw, 29 Ionawr 2020. Cyrchwyd ar 8 Hydref 2020.
  5. Morgan, Sion (20 May 2014). "Hinterland: What We Know So Far About the Second Season". Wales Online. Cyrchwyd 8 February 2016.

Dolenni allanol golygu