Tref a chymuned ger arfordir gogleddol Ffrainc yw Harfleur. Saif yn département Seine-Maritime, yn y Pays de Caux, ger aberoedd afon Seine ac afon Lézarde, a tua 10 km i'r dwyrain o Le Havre. Roedd y boblogaeth yn 2005 yn 8,602.

Harfleur
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,315 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iBramsche, Lindow (Mark), Rollo Department Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sircanton of Gonfreville-l'Orcher, Seine-Maritime, arrondissement of Havre Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd4.21 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr6 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLe Havre, Montivilliers, Gonfreville-l'Orcher Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.5067°N 0.1981°E Edit this on Wikidata
Cod post76700 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Harfleur Edit this on Wikidata
Map
Yr eglwys a hen dai yn Harfleur

Ar un adeg, roedd Harfleur yn borthladd pwysig iawn. Yn y cyfnod Rhufeinig, adnabyddid ef fel Caracotinum, prif borthladd yr hen Calates, ac roedd ffordd Rufeinig yn arwain oddi yma i Troyes. Adeiladwyd muriau'r dref yn 1341-1361. Yn 1415, cipiwyd y dref gan Harri V, brenin Lloegr, ond yn 1435, gwrthryfelodd poblogaeth Caux yn erbyn y Saeson dan arweiniad Jean de Grouchy, a gallasant adfeddiannu Harfleur wedi i 104 o'r trigolion agor pyrth y dref iddynt.

Yn y 16g, decheuodd pwysigrwydd y porthladd leihau, a chymerodd Le Havre ei le fel prif borthladd gogledd-orllewin Ffrainc.