Bardd Americanaidd oedd Harold Hart Crane (21 Gorffennaf 189927 Ebrill 1932). Ysgrifennodd barddoniaeth fodernaidd, a ellir ei hystyried yn rhan o'r mudiad ffurfiolaidd, o natur astrus, arddulliedig, ac uchelgeisiol ei maes. Dathliad o gyfoethogrwydd bywyd mae nifer o'i gerddi, sy'n disgrifio bywyd yr oes ddiwydiannol mewn geiriau dwys, gweledigaethol.[1] Cyfunodd dylanwadau llenyddol Ewrop a thechnegau mydryddu traddodiadol gyda theimladrwydd Americanaidd oedd yn olrhain i'r traddodiad Rhamantaidd (Walt Whitman a Ralph Waldo Emerson).[2][3]

Hart Crane
Ganwyd21 Gorffennaf 1899 Edit this on Wikidata
Garrettsville, Ohio Edit this on Wikidata
Bu farw27 Ebrill 1932 Edit this on Wikidata
o boddi Edit this on Wikidata
Florida Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Bridge Edit this on Wikidata
MudiadRhamantiaeth Edit this on Wikidata
TadClarence A. Crane Edit this on Wikidata
MamGrace Edna Hart Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd yn Garrettsville, Ohio, a threuliodd ei blentyndod yn Cleveland. Roedd priodas anhapus gan ei rieni, a chyfranodd at aflonyddwch emosiynol Crane am weddill ei fywyd. Darllennodd dramodyddion a beirdd oes Elisabeth (Shakespeare, Marlowe a Donne) a beirdd Ffrengig y 19g (Vildrac, Laforgue, a Rimbaud), a dechreuodd ysgrifennu yn ei arddegau.

Gyrfa golygu

Bu'n gweithio mewn amryw o swyddi yn Ninas Efrog Newydd a Cleveland tra'n ysgrifennu cerddi a'u danfon i gylchgronau. Pan lwyddodd i gyhoeddi peth o'i waith, penderfynodd symud i Efrog Newydd i fyw ym 1923. Cafodd ei daro gan fywiogrwydd ac egni swnllyd y ddinas a ysbrydolodd ei waith, yn enwedig y dilyniant a ensyniodd rhwng nodweddion y byd cyfoes a'r gorffennol epig. Er ei lwyddiant creadigol, parhaodd ei natur hunanddinistriol am weddill ei fywyd, a bu'n yfed yn drwm a hoetio ar ôl dynion.[1] Bu'n ymgysylltu â nifer o lenorion eraill oedd yn byw yn Efrog Newydd yn y cyfnod, gan gynnwys Allen Tate, Katherine Anne Porter, E. E. Cummings, a Jean Toomer, ond oherwydd ei dymer a'i or-yfed ni ffurfiodd cyfeillgarwch cryf gyda'r un ohonynt.

White Buildings golygu

Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, White Buildings, ym 1926. Ymysg y casgliad hwn mae'r gerdd hir "For the Marriage of Faustus and Helen", ymateb Crane i'r besimistiaeth ddiwylliannol a welodd gan T. S. Eliot yn The Waste Land.

The Bridge golygu

Dechreuodd Crane gynllunio cerdd epig o'r enw The Bridge ym 1924. Gan fanteisio ar gymorth ariannol gan ei dad a'r dyngarwr Otto H. Kahn, cwblhaodd Crane "The Bridge" 1930. Ei ymgais i greu myth epig o'r profiad Americanaidd yw'r gwaith hwn. Mewn rhan, roedd yn ymgais i wrthsefyll digalondid Eliot yn The Waste Land. Symbol o rym creadigol dyn wrth uno'r presennol a'r gorffennol yw pont y gerdd, a ysbrydolwyd mewn rhan gan Bont Brooklyn. Fel Eliot, defnyddia Crane y ddinaswedd fodern i greu barddoniaeth symbolaidd cryf, ond yn yr achos hon gweledigaeth optimistig a gwladgarol o bwysigrwydd hanesyddol ac ysbrydol America.[2] Geiriau dyrchafol a pherlewygol sy'n lliwio'r gerdd, gan greu delweddau a feirniadir yn aml am fod yn aneglur.[3] Pymtheg rhan sydd i'r gerdd hir hon, a defnyddiodd Crane strwythur y symffoni fel model wrth uno'r gwaith. Câi'r gerdd ei hystyried yn fethiant o genre'r epig o ganlyniad i'w natur ddigyswllt, ond yn ôl beirniaid llenyddol mae rhannau'r gerdd yn enghreifftiau o farddoniaeth Americanaidd orau'r 20g.[1]

Marwolaeth golygu

Enillodd Crane Gymrodoriaeth Guggenheim ym 1931 a theithiodd i Ddinas Mecsico gyda'r bwriad o ysgrifennu cerdd epig a Mecsico yn ysbrydoliaeth iddi. Ni lwyddodd i wneud hyn, er iddo ysgrifennu'r gerdd The Broken Tower tra'n byw yno ym 1932. Ar ei fordaith yn ôl i Efrog Newydd, neidiodd o'r llong i mewn i Fôr y Caribî gan foddi.

Beirniadaeth a dylanwad golygu

Cyhoeddwyd casgliad o'i gerddi ym 1933, ac ym 1966 casgliad o'i holl gerddi a llythyron a rhyddiaith ddethol.

Roedd nifer o'i gyfoedion yn ei edmygu, gan gynnwys Eugene O'Neill, E. E. Cummings, Allen Tate, a William Carlos Williams. Dylanwadodd ei waith ar feirdd Americanaidd yng nghanol yr 20g megis John Berryman a Robert Lowell, a hefyd y dramodydd Tennessee Williams. Ymhlith ei edmygwyr modern mae'r bardd o Sant Lucia Derek Walcott, y beirniad Americanaidd Harold Bloom, y llenor Gwyddelig Colm Tóibín, a'r arlunydd Americanaidd Jasper Johns.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Hart Crane. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Ebrill 2016.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Hart Crane. Academy of American Poets. Adalwyd ar 23 Ebrill 2016.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Hart Crane. Poetry Foundation. Adalwyd ar 23 Ebrill 2016.

Dolenni allanol golygu