Mynyddwr, fforiwr ac awdur oedd Heinrich Harrer (6 Gorffennaf 19127 Ionawr 2006). Yn enedigol o Awstria, mae'n enwog am fod yn un o'r pedwar dringwr a ddringodd wyneb gogleddol yr Eiger am y tro cyntaf. Roedd yn dringo yn yr Himalaya pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, a chymerwyd ef yn garcharor gan y Prydeinwyr. Llwyddodd i groesi i Tibet lle bu'n byw am rai blynyddoedd, gan ddod i adnabod y Dalai Lama. Ysgrifennodd lyfr Saith Mlynedd yn Tibet a ystyrir yn glasur, ac a wnaed yn ffilm yn nes ymlaen.

Heinrich Harrer
Ganwyd6 Gorffennaf 1912 Edit this on Wikidata
Hüttenberg Edit this on Wikidata
Bu farw7 Ionawr 2006 Edit this on Wikidata
Friesach Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Graz Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, ffotograffydd, dringwr mynyddoedd, Sgïwr Alpaidd, ysgrifennwr, sgriptiwr, daearyddwr, golffiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSeven Years in Tibet Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Addurniad Aur Mawr Styria, Gwobr Gwirionedd y Goleuni, Athro Berufstitel, Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.harrerportfolio.com/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Llyfryddiaeth golygu

  • Sieben Jahre in Tibet ("Saith Mlynedd yn Tibet", 1952)
  • Die Weiße Spinne ("Y Corryn Gwyn", 1959)
  • Ich komme aus der Steinzeit ("Dw i'n Dod o Oes y Cerrig", 1963)
  • Huka-Huka (1968)
  • Die letzten Fünfhundert ("Y Pum Cant Olaf", 1977)
  • Ladakh (1978)
  • Geheimnis Afrika ("Affrica Cudd", 1979)
  • Der Himalaja blüht ("Mae'r Himalayas yn Blodeuo", 1980)
  • Wiedersehen mit Tibet ("Dychwelyd i Tibet", 1997)
  • Mein Leben ("Fy Mywyd", 2002)
   Eginyn erthygl sydd uchod am Awstriad neu Awstries. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.