Helen Thomas

Cymraes a laddwyd yn Greenham Common

Ymgyrchydd heddwch o Gymraes oedd Helen Wyn Thomas (16 Awst 19665 Awst 1989). Cafodd ei lladd yng Ngwersyll Greenham pan yrrodd fan geffylau Heddlu Canolbarth Gorllewin Lloegr yn rhy agos ati fel roedd yn sefyll ar ochr y ffordd. Cymraes o Gastell Newydd Emlyn oedd hi a mynychodd Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi. Roedd yn caru'r iaith a'i diwylliant.

Helen Thomas
Ganwyd16 Awst 1966 Edit this on Wikidata
Castellnewydd Emlyn Edit this on Wikidata
Bu farw5 Awst 1989 Edit this on Wikidata
o damwain cerbyd Edit this on Wikidata
Menywod Greenham Common Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweithredydd gwleidyddol, ymgyrchydd heddwch Edit this on Wikidata

Roedd merched y gwersyll wedi neulltio ardal dawel, i gofio Helen, lle gallai'r merched dreulio amser tawel a myfyrio. Daeth beiliaid Cyngor Dosbarth Newbury a dinistrio'r lle yn bwrpasol.

Cofiant golygu

Ganwyd Helen Wyn Thomas ar y 16eg o Awst 1966. Aeth hi i Brifysgol Cymru, Llanbed, a graddiodd mewn hanes. Wedi iddi raddio, symudodd i Gaerdydd, a chychwynnodd weithio i Women’s Aid yno, cyn ymddiddori yng Nghwersyll Heddwch Greenham Common.[1] Roedd Helen Wyn Thomas yn ymgyrchydd heddwch o Gastell Newydd Emlyn.

Bu farw ddau fis wedi iddi symud i’r gwersyll heddwch o anafiadau i’w phen wedi iddi gael ei tharo gan gar heddlu wrth aros i groesi’r ffordd fer y Gât Felen yn y gwersyll. Roedd hi’n 22 mlwydd oed.[2]

Ar ôl cau'r gwersyll, ym mis Medi 2000 penderfynwyd codi safle goffa a hanesyddol yno gan gynnwys Gardd Goffa Helen.

Yn 2010, cynhaliwyd gwasanaeth i’w chofáu yn Greenham Common. Yn 2011, gosodwyd mainc yng Nghastell Newydd Emlyn i’w chofáu. Ysgrifennodd Dafydd Iwan ei gân, ‘Can i Helen’ amdani.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. BBC News. "Greenham Common campaigner Helen Thomas is honoured". BBC. Cyrchwyd 22/03/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  2. Wales Online. "The woman who paid the ultimate price for peace". Wales Online. Cyrchwyd 22/03/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  3. Lois, Efa. "Helen Wyn Thomas". Prosiect Drudwen. Cyrchwyd 22/03/2018. Check date values in: |access-date= (help)
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.