Hen Ffrangeg

iaith

Ffurf hanesyddol gynharaf yr iaith Ffrangeg yw Hen Ffrangeg a siaredid yng ngogledd Ffrainc o'r 8g i'r 14g.

Testun Hen Ffrangeg o lawysgrif Le Romant de la Rose sy'n dyddio o hanner olaf y 14g, a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[1]

Datblygodd Hen Ffrangeg o Ladin llafar, yr iaith a siaredid gan drigolion ar draws Ewrop yn sgil concwestau'r Ymerodraeth Rufeinig. Dylanwadwyd arni rhywfaint gan eirfa'r Aleg, iaith y Galiaid a drigasant yn yr ardal cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, a'r Germaneg, iaith y Ffranciaid a ddaeth i ogledd Gâl yn y 5g. Erbyn y 9g, roedd iaith y werin yn ddigon wahanol i'w hystyried yn iaith wahanol ar Ladin. Y testun hynaf yn Hen Ffrangeg ydy Llwon Strasbwrg (842), a ysgrifennwyd yn Lladin Ganoloesol, Hen Ffrangeg neu Alaidd-Romáwns, ac Hen Uchel Almaeneg.

Yn y 14g datblygodd Hen Ffrangeg yn Ffrangeg Canol, y ffurf ar yr iaith a siaredid yn ystod oes y Dadeni yn Ffrainc.

Cyfeiriadau golygu