Hen Norseg

iaith Germanaidd Gogleddol

Iaith Germanaidd gogleddol yw Hen Norseg a siaredid yn Llychlyn a gwladfeydd y Llychlynwyr ar draws arfordiroedd gogledd Ewrop, Ynysoedd Prydain ac Iwerddon, ac ar lannau afonydd dwyrain Ewrop o'r 8g i ganol y 14g. Dyma iaith lenyddol y sagâu a genid yng Ngwlad yr Iâ, a thraddodiadau hengerdd y skald a'r eda.

Ardaloedd lle siaredid Hen Norseg ac ieithoedd cysylltiedig yn nechrau'r 10g:      Tafodiaith Hen Norseg y gorllewin      Tafodiaith Hen Norseg y dwyrain      Hen Gutlandeg      Hen Saesneg      Gotheg y Crimea[1]      Ieithoedd Germanaidd eraill chanddynt rywfaint o gyd-eglurder ag Hen Norseg

Trawsnewidiodd Cyn-Norseg yn Hen Norseg erbyn y 8g. Arhosai Hen Norseg yn hynod o sefydlog yn y cyfnod 1150–1350, cyn iddo ddatblygu yn ffurfiau cynnar ar yr ieithoedd Germanaidd gogleddol modern yn niwedd y 14g. Rhennir Hen Norseg yn dair tafodiaith: Hen Norseg y gorllewin, a ddatblygodd yn Hen Islandeg, Hen Norwyeg a Norseg yr Ynys Las; Hen Norseg y dwyrain, a ddatblygodd yn Hen Ddaneg a Hen Swedeg; ac Hen Gutlandeg, a ddatblygodd yn Gutlandeg. Hen Norseg yw iaith gysefin yr ieithoedd Islandeg, Ffaröeg, Norwyeg, Daneg, a Swedeg, a'r ieithoedd meirw Norn a Norseg yr Ynys Las.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. * MacDonald Stearns, Crimean Gothic. Analysis and Etymology of the Corpus, Saratoga 1978. (Saesneg)
  2. "Nordiska språk", Nationalencyklopedin: § Historia, §§ Omkring 800–1100, 1994 (Swedeg)