Rhaglen gylchgrawn ar S4C yw Heno. Cynhyrchir y rhaglen gan gwmni Tinopolis. Fe'i darlledwyd gynta ar S4C ym mis Medi 1990. Roedd yn rhan o weledigaeth Geraint Stanley Jones i gyrraedd cynulleidfa newydd nad oedd efallai yn hyderus o ddefnyddio ei Cymraeg. Lleolwyd y stiwdio a'r swyddfa gynhyrchu yn y de-ddwyrain er mwyn atgyfnerthu'r cysylltiad gyda'r ardal yma oedd yn naturiol Gymraeg a roedd swyddfa barhaol yn y gogledd hefyd.[1]

Heno

Logo Heno
Genre Rhaglen gylchgrawn
Gwlad/gwladwriaeth Baner Cymru Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Amser rhedeg c.30 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Darllediad gwreiddiol 17 Medi 1990 – Rhagfyr 2002
1 Mawrth 2012 – presennol
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Yn 2002 fe ail-lansiwyd y rhaglen gyda'r enw Wedi 6 ac yna Wedi 7.[2] Mae'n chwaer-rhaglen i Prynhawn Da (gynt yn Wedi 3).

Yn 2012, fe wnaeth S4C ail-lansio eu amserlen ar 1 Mawrth a daeth Wedi 7 i ben. Fe ail-gyflwynodd S4C y rhaglen Heno gyda fformat newydd tabloid ond fe gafodd feirniadaeth hallt gan y gynulleidfa a chwmni Tinopolis oedd yn ei gynhyrchu.[3] Yn dilyn hyn fe ddychwelodd y rhaglen i'r fformat wreiddiol ym mis Ebrill 2012 gan gadw'r enw Heno.[4]

Cafwyd rhaglen arbennig ar 17 Medi 2015 i ddathlu pen-blwydd y rhaglen yn 25 oed.[5] I ddathlu 30 mlynedd o'r rhaglen, darlledwyd cyfres o raglenni Heno Aur ar nosweithiau Sadwrn, yn dangos hen glipiau o'r archif.[6]

Cyfnodau golygu

Heno (1990-2002) golygu

Fe gynhyrchwyd y gyfres wreiddiol gan Teledu Agenda a dyfodd i fod yn gwmni Tinopolis. Yn ystod y 1990au cynnar fe ddarlledwyd y rhaglen o stiwdio yng nghanolfan siopa Dewi Sant[7], Abertawe cyn symud i stiwdios newydd Tinopolis yn Llanelli ddiwedd y 90au.

Roedd y rhaglen yn arbennig o boblogaidd yn y de ond cafodd ei beirniadu gan nifer oherwydd y defnydd o'r Saesneg, yn enwedig wrth holi pobl ar y stryd a chynnal cyfweliadau yn y stiwdio. Ymateb y cwmni teledu oedd mai ymgais i adlewyrchu'r gymuned ddwyieithog roedd yn darlledu ohoni hi oedd y rheswm dros y defnydd o'r Saesneg.

Byddai pob rhaglen yn cynnwys cyfweliadau yn y stiwdio, eitemau nodwedd am ddigwyddiadau a newyddion o amgylch Cymru a nifer o slotiau am fywyd bob dydd. Ena Thomas oedd prif gogyddes y rhaglen a byddai'n egluro rysáit yn y gegin yn wythnosol. Byddai Huw 'Ffasiwn' wrth law i egluro'r trendiau diweddaraf a Ieuan Thomas yn rhoi cyngor ar arddio.

Roedd y cyflwynwyr gwreiddiol yn cynnwys Iestyn Garlick, Siân Tomos ac Angharad Mair a nifer o ohebwyr yn cynnwys Nia Dafydd, Emyr Penlan, Brychan Llŷr, Roy Noble, Daloni Metcalfe a Carys Wyn.

Wedi 6 (2002-2003) golygu

Yn 2002 fe newidiodd S4C yr amserlen ac ail-enwi rhaglen Heno i Wedi 6. Fe gwtogwyd y rhaglen i hanner awr er mwyn gallu darlledu rhaglenni poblogaidd eraill yn yr oriau brig.

Wedi 7 (2003-2012) golygu

Fe newidiwyd yr amserlen eto yn 2003 gan symud y rhaglen i 7pm. I gychwyn, roedd Wedi 7 yn cael ei ddarlledu o ddydd Llun i ddydd Iau gyda rhaglen adloniant a cherddoriaeth Popcorn ar ddydd Gwener. Daeth y rhaglen yma i ben o fewn y flwyddyn a fe ddychwelodd Wedi 7 i'r slot dydd Gwener. Darlledwyd rhifyn olaf y gyfres ar 28 Chwefror 2012.

Heno (2012-) golygu

O 1 Mawrth 2012 lansiwyd amserlen newydd S4C a roedd ymgais gan y sianel i greu rhaglen gylchgrawn fwy bywiog a thabloid ei naws. I raddau roedd hyn yn adlewyrchu natur wreiddiol y rhaglen o 1990 er fod y cynnwys wedi esblygu i fod yn fwy diwylliannol gyda Wedi 7. Roedd y rhan fwyaf o'r eitemau ysgafn fel ffasiwn, hamdden, colur, coginio ac ati wedi symud i raglen Wedi 3 yn y prynhawn. Fe enillodd Tinopolis y tendr ond fe ddaeth hi'n amlwg wedyn nad oedden nhw'n gwbl hapus gyda fformat a chynnwys y rhaglen.

Fe roedd yna gyflwynwyr newydd yn cynnwys Rhodri Williams (a oedd wedi cyflwyno Heno yn y 90au), Emma Walford, Rhodri Owen a Llinos Lee. Roedd y rhaglenni newydd yn cychwyn gyda golwg ar newyddion y dydd a storiau mewn papurau newydd neu gylchgronau, gan drafod hyn rhwng y ddau gyflwynydd a dau westai. Roedd yna bwyslais hefyd ar ryngweithio gyda'r gynulleidfa drwy wefannau cymdeithasol a llai ar ohebwyr allanol o gwmpas Cymru. Ar y dydd Gwener roedd Heno yn cael ei ddisodli gyda rhaglen adloniant ysgafn Pen8nos a chwis Jacpot.[8]

O fis Mai 2012, fe gadwyd enw'r rhaglen Heno ond fe ddychwelodd y fformat yn debycach i fformat y rhaglen Wedi 7. Ail-gyflwynwyd stiwdio fyw, yn adeilad y Galeri, Caernarfon ac ail-gyflogwyd Gerallt Pennant fel gohebydd yn y gogledd.[9] Symudodd Sam ar y Sgrîn i fod yn rhan o arlwy nos Wener a daeth cyfres Pen8nos i ben erbyn yr haf.[10] Yn ddiweddarach fe ymestynnwyd rhaglenni dydd Llun a ddydd Gwener yn awr o hyd.

Yn 2020 cychwynnodd rhifyn ar nos Sadwrn am y tro cyntaf. Darlledwyd Heno Nos Sadwrn am y tro cyntaf am 7.30pm ar 8 Chwefror 2019 gyda sioe fyw o Galeri Caernarfon wedi ei gyflwyno gan Elin Fflur.[11]

Cyflwynwyr a Gohebwyr golygu

Mae yna lawer o bobl wedi ymddangos ar y rhaglen fel prif gyflwynwyr yn y stiwdio a gohebwyr. Mae nifer o'r unigolion yma yn gweithio yn llawn amser gyda Tinopolis fel ymchilwyr, cynhyrchwyr neu cyfarwyddwyr. Mae'r rhestr isod yn cynnwys rhai sydd ddim yn ymddangos ar y sgrîn bellach ond sy'n parhau i weithio tu ôl y llenni.

Cyflwynwyr a gohebwyr cyfredol golygu

Cyn-gyflwynwyr a gohebwyr golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Pen-blwydd Hapus 'Heno', adalwyd 18 Medi 2015
  2. S4C focuses locally for new flagship programme
  3. Arlwy bresennol S4C ‘yn peryglu ei dyfodol’
  4. S4C: Newidiadau i raglen ‘Heno’, Golwg360, 13 Ebrill 2012.
  5. Cofnod Twitter, Adalwyd ar 17 Medi 2015
  6. @HenoS4C (17 Mehefin 2020). "Rydyn ni am fynd â chi yn ôl mewn amser! 🕢🔙🚗💨HENO AUR! 🌟✨Yn dod i'ch sgrîn chi'n fuan! 📺 Heno Aur 📆 1 Gorffennaf" (Trydariad) – drwy Twitter.
  7. Swansea's St David's shopping centre in the 1980s
  8. Datgelu pwy a beth fydd yn cymryd lle Wedi3/Wedi7
  9. Heno – Gerallt Pennant yn ôl, Rhodri Ogwen yn gadael, Golwg360, 1 Mai 2012.
  10.  Newidiadau i amserlen S4C. S4C (1 Mai 2012). Adalwyd ar 22 Mai 2016.
  11. Elin Fflur yn croesawu’r cyfle i gyflwyno Heno ar nos Sadwrn , Golwg360, 31 Ionawr 2020.

Dolenni allanol golygu