Nofelydd a bardd Ffrengig yn yr iaith Ffrangeg oedd Henri Barbusse (17 Mai 187330 Awst 1935) sy'n nodedig am ei nofel Le Feu (1916) sy'n ymwneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Henri Barbusse
GanwydAdrien Gustave Henri Barbusse Edit this on Wikidata
17 Mai 1873 Edit this on Wikidata
Asnières-sur-Seine Edit this on Wikidata
Bu farw30 Awst 1935 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr, sgriptiwr, cofiannydd, nofelydd, gwleidydd, arlunydd, bardd, hanesydd Edit this on Wikidata
Swyddgolygydd llenyddol, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • L'Humanité
  • Le Populaire
  • Monde (review)
  • Q3226004 Edit this on Wikidata
Adnabyddus amUnder Fire Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol Ffrengig Edit this on Wikidata
Mudiadproletarian literature Edit this on Wikidata
PriodHélyonne Mendès Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Goncourt, Cystadleuthau Cyffredinol, Croix de guerre 1914–1918 Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd yn Asnières-sur-Seine, ger Paris. Cychwynnod ar ei yrfa lenyddol gyda'r gyfrol o farddoniaeth newydd-Symbolaidd, Pleureuses (1895). Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Les Suppliants, yn 1903, a'r nofel newydd-Naturiolaidd L'Enfer yn 1908. Ymunodd â Byddin Ffrainc yn 1914 a gwasanaethodd yn droedfilwr ar Ffrynt y Gorllewin.

Wedi'r rhyfel, trodd Barbusse yn heddychwr ac yna'n gomiwnydd milwriaethus. Symudodd i'r Undeb Sofietaidd ac ysgrifennodd Staline (1935), bywgraffiad am Joseff Stalin. Bu farw ym Moscfa yn 62 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Henri Barbusse. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Medi 2019.