Henry Bracy

actor a chanwr opera Cymreig

Roedd Henry Bracy (8 Ionawr 1846 - 31 Ionawr 1917) yn denor operatig, cyfarwyddwr llwyfan a chynhyrchydd operâu Cymreig sy'n cael ei gofio orau fel crëwr rôl y Tywysog Hilarion yn opera gomig Gilbert a Sullivan, y Princess Ida . Byddai Bracy yn aml yn perfformio rhan y tenor cyntaf yn y gweithiau yr ymddangosodd ynddynt, gan ddod yn un o denoriaid comig mwyaf poblogaidd oes Fictoria.[1][2]

Henry Bracy
GanwydSamuel Thomas Dunn Edit this on Wikidata
8 Ionawr 1846 Edit this on Wikidata
Maesteg Edit this on Wikidata
Bu farw31 Ionawr 1917 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner Awstralia Awstralia
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
PriodClara T. Bracy Edit this on Wikidata
PlantSidney Bracey Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Bracy ym 1846 fel Samuel Thomas Dunn [3] ym Maesteg, yn fab i William Dunn, cyfrifydd. Bu farw ei fam yn ei ieuenctid a symudodd i fyw gyda'i ewythr Samuel Dunn, rheolwr gwaith haearn yn Kingswinford, Swydd Stafford.[4]

Teulu golygu

Ym 1873 priododd a Clara Rose Hodges, actores. Bu iddynt dau fab a oedd hefyd yn actorion Sidney Bracy actor ffilm yn America a Philip Bracy, actor llwyfan yn y West End, Llundain.

Gyrfa golygu

 
Bracy fel Hilarion, 1884

Ar ôl dechrau ei yrfa yn Plymouth, treuliodd Bracy bedair blynedd yn perfformio yn Theatr y Gaiety yn Llundain yn gynnar yn y 1870au. Yna teithiodd ef a'i wraig i Awstralia, lle buont yn perfformio mewn operettas Ffrengig am weddill y degawd. Dychwelon nhw i Brydain ym 1880, gan barhau mewn rolau operetta. Ym 1884, perfformiodd Bracy rôl Hilarion, ac wedi hynny adeiladodd enw da fel perfformiwr opera gomig ac operetta ym Mhrydain. Ym 1888, dychwelodd y teulu i Awstralia. Ar ôl tymor yn Nhŷ Opera Sydney ac wedyn teithio mewn operettas, ymunodd y Bracy â sefydliad J C Williamson, lle cafodd ei gyflogi am y rhan fwyaf o'i yrfa ddilynol, tan 1914, fel perfformiwr, rheolwr llwyfan, cyfarwyddwr llwyfan ac asiant castio. Daeth ei ymdrechion achlysurol i reoli theatr ar ei ran ei hun â cholledion ariannol iddo gan ei orfodi i fynd yn fethdalwr ym 1897.

Symudodd Clara i California ac ym 1908 ac ymddangosodd yn ffilm DW Griffith ym 1908, The Red Girl . Ymddangosodd Clara mewn 90 o ffilmiau, gan ddod yn un o'r actoresau ffilm fud gynharaf.[5] Ymddeolodd Bracy ym 1914; Roedd Williamson wedi marw ym 1913, gan adael cymynrodd i Bracy, ac ar ôl iddo ymddeol, rhoddodd y cwmni bensiwn hael iddo hefyd. Yna ymwelodd â San Francisco, lle'r oedd ei wraig yn preswylio wrth berfformio i Charles Frohman .[6]

Marwolaeth golygu

Bu farw Bracy o glefyd Cerebrofascular yn Darlinghurst, Sydney, Awstralia, ym 1917. Goroeswyd ef gan Clara a'i ddau fab a chladdwyd ef ym Mynwent Waverley.[1]

Cyfeiriadau golygu