Henry Lascelles Carr

newyddiadurwr a pherchennog newyddiaduron

Gŵr busnes a dyn papur newydd oedd Henry Lascelles Carr (18445 Hydref 1902).

Henry Lascelles Carr
Ganwyd1844 Edit this on Wikidata
Knottingley Edit this on Wikidata
Bu farw5 Hydref 1902 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Kingswood School Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, person busnes Edit this on Wikidata

Ganwyd Carr yn 1841 yn Knottingley, Swydd Efrog, gogledd Lloegr.[1]. Roedd yn fab i'r Parch. James B. Carr a fu'n gwasanaethu am gyfnod gyda'r Wesleaid yn y Barri. Derbynidd ei addysg yng ngholeg diwinyddol Sant Aidan, Penbedw (Birkenhead), ond yn hytrach na dilyn ei dad i'r weinidogaeth, penderfynnodd ddilyn gyrfa gyda'r Wasg. Cychwynodd weithio yn swyddfa'r Dail Post yn Lerpwl, ac yna bu'n is-olygydd gyda'r Western Mail wedi sefydlu'r papur hwnnw yn 1869. Ym mhen amser daeth yn rheolwr, golygydd, a chydberchennog hyd at 1901, ond yna bu'n rhaid iddo ymddeol oherwydd afiechyd.

Roedd yn gyfranogol i waith cyhoeddus o fewn y gymdeithas, e.e. aelod o Gyngor Tref Caerdydd ac fel ynad heddwch. Roedd hefyd yn awdur nifer o lyfrau megis yr un ar ddeddf cau tafarnau ar y Sabath (dydd Sul) yng Nghymru. Bu farw Henry Carr ar 5 Hydref 1902.

Yn 1891 Carr, fel rhan o grŵp bychan o bobl, prynodd y papur newydd News of the World, gan benodi ei nai Emsley Carr yn olygydd. Ychydig wedyn priododd Emsley ferch Carr. Tua'r adeg yma hefyd, trodd Carr i'r diwydiant gwestai, gan ddod yn Gadeirydd y Royal Hotel Company, perchennog y Royal Hotel ar Heol y Santes Fair, Caerdydd.[2]

Ffynonellau golygu

  • Western Mail, 7 Hydref 1902, 1 Mai 1919.

Cyfeiriadau golygu

  1. Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 9 Mehefin 2016
  2. "The rise of Mr Lascelles Carr". royalhotelhistory.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-09. Cyrchwyd 3 April 2012.