Henry Watkins Williams-Wynn

diplomydd Cymreig

Roedd Syr Henry Watkins Williams-Wynn (16 Mawrth 178326 Mawrth 1856) yn ddiplomydd a gwleidydd Cymreig.[1]

Henry Watkins Williams-Wynn
Ganwyd16 Mawrth 1783 Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mawrth 1856 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, llysgennad y Deyrnas Unedig I'r Swistir, llysgennad y Deyrnas Unedig i Denmarc, llysgennad y Deyrnas Unedig i Württemberg, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Y Swyddfa Dramor Edit this on Wikidata
TadSyr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig Edit this on Wikidata
MamCharlotte Williams-Wynn Edit this on Wikidata
PriodHester Frances Williams-Wynn Edit this on Wikidata
PlantMarie Emily Williams-Wynn, Charlotte Henrietta Williams-Wynn, Grenville Watkin Williams-Wynn, Katharine Williams-Wynn, Arthur Watkin Williams-Wynn, Henry Bertie Watkin Williams-Wynn Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Williams-Wynn ym 1783 yn drydydd mab i Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig, a Charlotte Grenville, merch yr anrhydeddus George Grenville. Roedd Grenville yn ddeiliad nifer o swyddi pwysig yn y llywodraeth, gan gynnwys gwasanaethu fel prif weinidog y DU rhwng 1763 a 1765. Roedd Henry yn frawd i Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig a Charles Watkin Williams-Wynn (1775-1850).[2]

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Harrow.

Gyrfa golygu

Ymunodd a'r swyddfa dramor fel clerc yn Ionawr 1799, pan oedd ei ewythr, yr Arglwydd Grenville, yn bennaeth y swyddfa, ac yn gynnar yn 1801 penodwyd ef yn ysgrifennydd preifat ac yn awdur crynodebu. Rhwng Ebrill 1803 ac Ebrill 1807 roedd yn llysgennad arbennig i Etholwr Sacsoni, a gwobrwywyd ei wasanaeth â phensiwn o £1,500 y flwyddyn [3]. Am ychydig fisoedd (Ionawr i Ebrill 1807) eisteddodd yn y senedd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Midhurst. Gwnaethpwyd Wynn yn llysgennad arbennig ac yn weinidog plenipotensiwr i'r Swistir yn Chwefror 1822; beirniadwyd y penodiad yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 26 Mawrth 1822, ac yn Nhŷ'r Cyffredin ar 15 a 16 Mai. O herwydd y feirniadaeth trosglwyddwyd ef i swydd debyg yn llys Würtemberg yn Chwefror 1823. Ym Medi 1824 anfonwyd ef i gyflawni swydd debyg yn Copenhagen, gan aros yno tan yn gynnar ym 1853.[4]

Anrhydeddau golygu

Pan benodwyd ei ewythr, yr Arglwydd Grenville' yn ganghellor Prifysgol Rhydychen rhoddodd gradd D.C.L. (Doethuriaeth yn y Gyfraith Gyffredin) i Williams-Wynn.

Daeth Williams-Wynn yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ar 30 Medi 1825. Cafodd ei urddo'n Farchog Croes Mawr Hanover ym 1831, ac yn Farchog Cadlywydd Urdd y Baddon (KCB) ar 1 Mawrth 1851.

Teulu golygu

Ym 1813 priododd Hester Frances 6ed merch Robert, Yr Arglwydd Carrington. Bu iddynt tri mab a thair merch.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn Llanforda, Swydd Amwythig yn 73 mlwydd oed.

Cyfeiriadau golygu