Ffugenw cartwnydd Belgiadd oedd Hergé, ei enw llawn oedd Georges Prosper Remi (22 Mai 19073 Mawrth 1983). Daw ei ffugenw o ynganiad Ffrangeg o flaen lythrennau ei gyfenw a'i enw cyntaf, RG. Mae Hergé'n adnabyddus yn bennaf fel creawdr a darlunydd y cyfres cartŵn stribed Anturiaethau Tintin, ysgrifennodd a darluniodd y gyfres o 1929 hyd ei farwolaeth yn 1983, gan adael ei 24ydd llyfr yn anorffenedig. Mae ei waith yn dal i fod yn ddylanwad cryf ar gomigion, yn arbennig yn Ewrop. Sefydlwyd yn Neuadd Enwogion Llyfrau Comig yn 2003.

Hergé
FfugenwHergé Edit this on Wikidata
GanwydGeorges Prosper Remi Remi Edit this on Wikidata
22 Mai 1907 Edit this on Wikidata
Etterbeek Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mawrth 1983 Edit this on Wikidata
Woluwe-Saint-Lambert - Sint-Lambrechts-Woluwe Edit this on Wikidata
Man preswylEtterbeek, Etterbeek, Watermael-Boitsfort / Watermaal-Bosvoorde, Céroux-Mousty Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Belg Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Q97278379
  • Q98667129
  • Q98668065
  • Institut Saint-Boniface Parnasse
  • Institut Saint-Luc Edit this on Wikidata
Galwedigaethcartwnydd, ysgrifennwr, arlunydd comics, sgriptiwr, darlunydd, drafftsmon Edit this on Wikidata
Swyddcyfarwyddwr celf Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Casterman
  • Le Lombard
  • Le Soir
  • Le XXe Siècle
  • Tintin Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAnturiaethau Tintin, Quick & Flupke, Jo, Zette and Jocko, Popol out West Edit this on Wikidata
Arddullligne claire Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadThree Men in a Boat, They and I, Roughing It, George McManus, Georges Colomb, Jean-Jacques Waltz, Alain Saint-Ogan Edit this on Wikidata
MudiadSchool of Brussels Edit this on Wikidata
PriodGermaine Kieckens, Fanny Rodwell Edit this on Wikidata
Gwobr/auSwyddog Urdd y Coron, Prix Saint-Michel, Will Eisner Hall of Fame, Jack Kirby Hall of Fame, Adamson Awards Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://tintin.com/herge Edit this on Wikidata
llofnod

Mae priodweddau nodweddiadol straeon Tintin yn cynnwys eu dyneiddiaeth lliwgar, teimlad realistig a gynhyrchwyd drwy ymchwil manwl ac eang, a dull darlunio ligne claire Hergé. Mae darllenwyr hŷn yn mwynhau'r nifer o gyfeiriadau dychanol tuag at hanes a gwleidyddiaeth yr 20g sydd i'w cael yn y gwaith. Ysbrydolwyd Le Lotus bleu, er enghraifft, gan y digwyddiad Mukden a arweiniodd at ryfel Chino-Japaneaidd 1934. Gellir darllen Le Sceptre d'Ottokar yn erbyn cefndir Anschluss Hitler; tra bod albymau mwy diweddar megis L'Affaire Tournesol yn disgrifio'r Rhyfel Oer. Mae Hergé wedi dod yn un o'r Belgiaid enwocaf yn fyd-eang, mae Tintin yn dal i fwynhau llwyddiant rhyngwladol, gyda dau lyfr yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg ym mis Hydref 2008.

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Georges Prosper Remi yn Etterbeek, ger Brwsel, Gwlad Belg yn 1907, yn fab i rieni dosbarth canol, Alexis ac Elisabeth Remi.