Yn ei ystyr cyfreithiol, mae hierarchaeth yn cyfeirio at oruchafiaeth rhai darnau o ddeddfwriaeth dros eraill. Mae systemau hierarchaidd, drwy ddiffiniad, yn cyferbynnu â modelau lle mae holl ffynonellau'r gyfraith yr un mor werthfawr a phwysig â'i gilydd.

Mewn gwledydd sydd â chyfansoddiadau ysgrifenedig, y ddogfen honno sydd ar frig yr hierarchaeth. Yn y Deyrnas Unedig, gan nad oes cyfansoddiad ysgrifenedig, ac yn unol ag egwyddor 'Goruchafiaeth Seneddol', deddfau seneddol sydd ar frig y system farnweiniol.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.