Hil-laddiad Rwanda

Hil-laddiad Rwanda, hefyd Rhyfel Cartref Rwanda yw'r term a ddefnyddir am y digwyddiadau yn Rwanda yn 1994. Ystyrir yn gyffredinol fod yr hyn a ddigwyddodd yn enghraifft o hil-laddiad. Amcangyfrifir fod rhwng 500,000 a miliwn o bobl wedi eu lladd.

Hil-laddiad Rwanda
Enghraifft o'r canlynolhil-laddiad, gwrthdaro Edit this on Wikidata
Lladdwyd1, 1,000,000 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd7 Ebrill 1994 Edit this on Wikidata
Daeth i ben17 Gorffennaf 1994 Edit this on Wikidata
LleoliadRwanda Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwersyll ffoaduriaid yn nwyrain Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo ar gyfer Rwandiaid yn ystod argyfwng ffoaduriaid y Llynnoedd Mawr, a ddaeth o ganlyniad i Hil-laddiad Rwanda.

Cyn y digwyddiadau hyn, roedd tua 90% o boblogaeth Rwanda yn perthyn i lwyth yr Hutu a 10% i lwyth y Tutsi. Roedd y berthynas rhwng y ddwy garfan wedi bod yn gwaethygu ym misoedd olaf 1993 a dechrau 1994, gyda gorsaf radio Radio Télévision Libre des Mille Collines yn annog yr Hutu i ymosod ar y Tutsi.

Dechreuodd y lladd ar 6 Ebrill 1994, pan saethwyd i lawr awyren yr oedd arlywydd Rwanda, Juvénal Habyarimana, ac arlywydd Bwrwndi, Cyprien Ntaryamira, yn teithio ynddi wrth iddi baratoi i lanio yn Kigali. Lladdwyd y ddau arlywydd. Mewn cyfnod o 100 diwrnod rhwng 6 Ebrill a chanol Gorffennaf, lladdwyd nifer fawr o'r Tutsi gan ddau filisia Hutu, yr Interahamwe a'r Impuzamugambi. Lladdwyd cryn nifer o Hutu oedd yn gwrthwynebu'r milisia hefyd.

Ni lwyddodd y milwyr oedd yn cynrychioli'r Cenhedloedd Unedig, yr UNAMIR, i atal y lladd, yn rhannol oherwydd ansicrwydd ynghylch mandad y milwyr. Arweiniodd hyn at feirniadaeth lem o'r Cenhedloedd Unedig. Rhoddwyd diwedd ar yr hil-laddiad gan y mudiad Tutsi Front Patriotique Rwandais (FPR), dan arweiniad Paul Kagame. Wedi iddynt gipio grym yn Rwanda, daeth Kagame yn Arlywydd.