Hiliaeth ym myd pêl-droed

Mae hiliaeth ym myd pêl-droed yn parhau i fod yn broblem fyd-eang. Nid yw chwaraewyr yn cael eu targedu oherwydd lliw eu croen yn unig; mae chwaraewyr, swyddogion y gêm a chefnogwyr yn dioddef oherwydd eu cenedligrwydd, crefydd neu eu hethnigrwydd. Bydd rhai yn cael eu targedu oherwydd eu cysylltiad â'r tîm arall yn hytrach na'u hymddangosiad neu eu cefndir. Ceir ambell enghraifft o unigolion yn cael eu targedu gan eu cefnogwyr eu hun, ac efallai mai'r enghraifft amlycaf o hyn yw John Barnes.[1]

Affrica golygu

Sambia golygu

Dioddefodd Hanif Adams, perchennog Clwb Pêl-droed Lusaka Dynamos, sarhad hiliol oherwydd ei gefndir Indiaidd pan oedd yn ceisio ddod yn lywydd Cymdeithas Bêl-droed Sambia.[2]

Ewrop golygu

Gwlad Belg golygu

Cafodd yr Americanwr Oguchi Onyewu, sydd o dras Nigeriaidd ei daro a'i weiddi ato gan gefnogwyr hiliol pan yn chwarae i'r Standard Liège.[3]

Ffrainc golygu

Ym mis Ionawr 2005, mewn menter gwrth-hiliaeth yn y gynghrair Ffrengig, gwisgodd chwaraewyr Paris Saint-Germain (PSG) ddillad gwyn i gyd, tra bod eu gwrthwynebwyr, RC Lens, wedi gwisgo dillad du i gyd mewn gêm yn y gynghrair Ffrengig. Bu'r fenter yn aflwyddiannus wrth i griwiau hiliol ymysg torf PSG ganu "Allez, les Blancs!" ("C'mon y Gwynion!"). Atgyfnerthwyd yr ensyniadau hiliol, gyda synnau mwncïod yn dod o gyfeiriad yr eisteddle Kop Boulogne, pan fyddai chwaraewyr Lens yn cael meddiant o'r bêl.[4]

Ar yr 17eg o Fedi, 2007 dioddefodd Boubacar Kébé sy'n chwarae i dîm Libourne, Burkinabe hiliaeth wrth gefnogwyr Bastia; derbyniodd garden goch am ymateb. Ym mis Chwefror, 2008 roedd Bastia yng nghanol ffrae hiliol arall pan arddangosodd eu cefnogwyr faner hiliol a oedd wedi ei gyfeirio at Kébé. Achosodd hyn i ddechreuad y gêm gael ei oedi am dair munud.[5]

Ar yr 17eg o Chwefror, 2008 cafodd Abdeslam Ouaddou o Valenciennes ei gamdrin yn hiliol gan gefnogwr tîm Metz; cyhoeddodd Metz a'r gynghrair Ffrengig y byddent yn dod ag achos llys yn erbyn y cefnogwr. Ni welwyd y digwyddiad gan dyfarnwr y gêm, ac felly rhoddodd garden felen i Ouaddou am herio'r cefnogwr.[6] Yn ddiweddarach, mynodd cadeirydd Valenciennes, Francis Decourriere fod y gêm yn cael ei ail-chwarae, "o flaen y plant o Valenciennes a Metz."[7] Yn dilyn y digwyddiad hwn, cyflwynodd Ffederasiwn Pêl-droed Ffrainc gosbau mwy llym.[8]

Ym mis Mawrth 2008, honnodd Frédéric Mendy o dîm Bastia iddo gael ei gamdrin yn hiliol gan gefnogwyr Grenoble.[9]

Yr Almaen golygu

Cynyddodd hiliaeth yn yr Almaen ar ôl uno'r gorllewin a'r dwyrain; erbyn 1992 roedd grŵpiau Natsïaeth newydd wedi dechrau cynllunio a threfnu ymosodiadau yn erbyn grŵpiau ethnig lleol a ffoaduriaid o Ddwyrain Ewrop, yn benodol pobl o Dwrci.

Ym 1994, rhybuddiodd seren pêl-droed Borussia Dortmund, Júlio César y byddai'n gadael y clwb wedi iddo gael ei wrthod mynediad i glwb nos am ei fod yn groenddu.

Ymatebodd cefnogwyr Clwb Pêl-droed St. Pauli mewn ffordd bendant i hiliaeth yn y gêm Almaenig. Ym 1992, safodd criw o gefnogwyr a myfyrwyr ar derasau'r clwb, gan arddangos y slogan "Gegen rechts" ('Yn erbyn y Dde'). Ym mis Rhagfyr 1992, dilynodd bob tîm yn y Gynghrair Almaenig esiampl St Pauli ac am un penwythnos gwisgodd yr holl chwaraewyr grysau gyda'r slogan "Mein Freund ist Ausländer" ('Tramorwr yw fy Ffrind'). Roedd ymgyrch 1995 y Mudiad Chwaraeon Ieuenctid Almaenig, "Dim Gobaith i Gasineb" wedi hybu gweithgareddau yn erbyn hiliaeth ac estrongasedd ar lefel cenedlaethol, gan annog clybiau lleol i gymryd rhan. Yn anffodus, nid oedd yr ymgyrch hwn wedi annog awdurdodau'r gêm yn yr Almaen i gymryd camau pellach. Dywed Merkel (1996) eu bod yn gwrthod cydnabod fod hiliaeth yn broblem fawr o gwbl, gan ddiystyrru hiliaeth fel digwyddiadau unigol sydd heb unrhyw gysylltiad â'r chwaraeon. Mae'r rhan fwyaf o'u mesurau yn ymwneud â chyfraith a threfn - lleihau trais mewn gêmau - ond mae gweithredu gwrth-hiliaeth yn bron iawn.

Mae hiliaeth ym myd pêl-droed yr Almaen yn llawer mwy cynnil nag mewn rhannau eraill o Ewrop; yn lle gwneud synnau mwncïod, defnyddir côdau, fel y rhif 88, sy'n sefyll am 'HH' neu 'Heil Hitler' (am mai 'H' yw'r wythfed lythyren yn yr wyddor Almaeneg a Saesneg). Mae rhai tîmoedd e.e. Hannover 96, wedi gwahardd symbolau o'r fath o'u stadiymau.[10]

Ar y 25ain o Fawrth, 2006, mewn gêm rhwng C.P. Sachsen Leipzig a Hallescher FC, poerwyd at canolwr-cae Nigeraidd Leipzig, Adebowale Ogungbure a chafodd ei alw'n "nigger" ac "ape" gan gefnogwyr y gwrthwynebwyr, a wnaeth synnau mwncïod ato'n ddiweddarach. Er mwyn ymateb i hyn, rhoddodd ef dau fys uwch ei wefus gan saliwtio'r dorf - cyfeiriad amlwg at Adolf Hitler. Arestiwyd Ogungbure gan yr heddlu Almaenig, am ei fod yn anghyfreithlon i wneud arwyddion Natsïaidd am rhesymau gwleidyddol neu sarhaus, ond gollyngwyd yr achos yn ei erbyn 24 awr yn ddiweddarach.[11]

Ym mis Ebrill 2006, mewn gêm rhwng St. Pauli a Chemnitzer FC, ymosododd cefnogwyr Chemnitz ar siopau a oedd yn berchen i bobl o Twrci, gan lafarganu "Sieg Heil" a chwifio baneri Naitsiaidd. Gwaeddodd rhai: "Rydym ni'n mynd i adeiladu îs-ffordd o St Pauli i Auschwitz".[11]

Mae ymosodwr rhyngwladol yr Almaen, Gerald Asamoah a anwyd yn Ghana, wedi bod yn destun hiliaeth droeon. Ar y 10fed o Fedi 2006, ymchwiliwyd i honiadau fod Hansa Rostock wedi bod yn hiliol mewn gêm gyfeillgar.[12] Cawsant eu ffeindio'n euog a chawsant ddirwy o $25,000 UDA.[13]

Lloegr golygu

Yn Lloegr, mae 25% o chwaraewyr pêl-droed proffesiynol yn ddu, ac eto dim ond 1% o gefnogwyr pêl-droed sy'n disgrifio'u hunain fel pobl o liw gwahanol. Mae'r Comisiwn Dros Gydraddoldeb Hiliol, Cymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed a'r Gymdeithas Pêl-droedwyr Proffesiynol i gyd wedi lawnsio cynlluniau er mwyn annog mwy o bobl o leiafrifoedd ethnig i fynychu gêmau.[14]

Dywedodd y pêl-droediwr croen tywyll, Dixie Dean, a chwaraeodd i Glwb Pêl-droed Everton fod sylwadau hiliol wedi effeithio arno wrth iddo adael y cae adeg hanner amser mewn gêm yn Llundain yn ystod y 1930au. Dywedwyd i Dean daro'r person a wnaeth y sylwad hiliol cyn diflannu i dwnel y chwaraewyr. Ni chymrodd yr awdurdodau unrhyw gamau disgyblaeth yn erbyn Dean, a dywedir fod heddwas cyfagos wedi hysbysu'r person hiliol ei fod yn "haeddu'r" gosb a gafodd.[1]

Gadawodd Steve Mokone, dyn du o Dde Affrica, Dinas Coventry am fod y rheolwr wedi dweud wrtho "Fe ddaethom ni a ti draw i fan hyn a dwyt ti ddim yn fodlon. Dyna'r broblem gyda phobl fel chi"; ystyriodd Mokone hyn fel sylwad hiliol ac yn fuan iawn arwyddodd gytundeb gyda Heracles Almelo.[15]

Ar yr 21ain o Ebrill 2004, ymddiswyddodd Ron Atkinson o ITV ar ôl iddo gael ei ddal yn gwneud sylwad hiliol yn fyw ar y teledu am chwaraewr du Clwb Pêl-droed Chelsea, Marcel Desailly: am ei fod yn meddwl fod y meicroffon wedi'i ddiffodd, dywedodd, "...he [Desailly] is what is known in some schools as a fucking lazy thick nigger". Er fod y darllediad yn y DU wedi dod i ben, darlledwyd ei sylwadau i nifer o wledydd yn y Dwyrain Canol. Hefyd, collodd ei swydd fel gohebydd i bapur newydd The Guardian o ganlyniad i'r sylwad.

Ar y 13eg o Ionawr, 2007, cyhuddodd yr F.A. chwaraewr Clwb Pêl-droed Newcastle Emre Belözoğlu o ddefnyddio geiriau hiliol neu sarhaus. Roedd yr achos yn cyfeirio at ddigwyddiad yn ystod gêm yn erbyn Everton yn Goodison Park ar y 30ain o Ragfyr, 2006.[16] Ar yr 16eg o Chwefror, 2007 cyhuddwyd Emre unwaith eto o ymddygiad hiliol, y tro hwn yn erbyn chwaraewr i dîm Bolton Wanderers El-Hadji Diouf.[17]

Fodd bynnag, ar y 1af o Fawrth, 2007, cyhoeddwyd na fyddai Diouf yn parhau gyda'r achos. Datgelwyd hefyd fod chwaraewr i dîm Watford, Al Bangura wedi gwneud datganiad ei fod yntai wedi dioddef hiliaeth wrth Emre.[18] Ar y 19eg o Fawrth, cafodd ei glirio o'r cyhuddiadau a wnaed am y gêm yn erbyn Everton.[19]

Gweler Hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Fact Sheet 6: Racism and Football". Prifysgol Caerlyr. Adalwyd ar 30-03-2009
  2. (Saesneg) Faz presidency marred by racial abuse BBC Sport. 2008-02-25. Adalwyd 2008-08-05
  3. (Saesneg) "Concerns raised over racism during Cup" USA Today. 06-02-2006. Adalwyd 17-02-2008
  4. (Saesneg)Major racist incidents in European soccer"[dolen marw]. FOX Sports. 06-02-2009. Adalwyd 11-03-2009
  5. (Saesneg)"Bastia face sanctions for racism". BBC Sport. 2008-02-23. Adalwyd ar 2008-08-05.
  6. (Saesneg)"Referee unaware of Ouaddou abuse". BBC Sport. 2008-08-05. Adalwyd ar 2008-02-21.
  7. (Saesneg)" Racism row club wants replay". BBC Sport. 2008-08-05. Adalwyd ar 2008-02-21.
  8. (Saesneg) "French officials to combat racism".[dolen marw] BBC Sport. 2008-02-28. Adalwyd 2008-08-05.
  9. (Saesneg)"Mendy in racist abuse claim".[dolen marw] BBC Sport. 2008-08-05. Adalwyd 2008-03-01.
  10. (Saesneg)"Fighting Racism in the Soccer Stadium".[dolen marw] Tzortzis, Andreas (2003-03-06). Deutsche Welle. Adalwyd 2008-08-05.
  11. 11.0 11.1 (Almaeneg)"Player Silences German Racists With Hitler Salute".[dolen marw] Lodde, Eva; Mike Glindmeier a Jens Todt (2006-04-03). Der Spiegel. Adalwyd 2008-02-17.
  12. (Saesneg)"Asamoah targeted by racist taunts".[dolen marw] BBC Sport. 2006-09-10. Adalwyd 2008-08-05.
  13. (Saesneg)"Rostock fined for Asamoah abuse".[dolen marw] BBC Sport. 2006-09-14. Adalwyd 2008-02-17.
  14. (Saesneg)"Racism and football fans".[dolen marw] Social Issues Research Centre. Adalwyd 2008-02-17.
  15. (Saesneg)"Steve "Kalamazoo" Mokone".[dolen marw] knet.co.za. Adalwyd 2008-02-17.
  16. (Saesneg)"Newcastle's Emre denies FA charge".[dolen marw] BBC. 2007-01-26. Adalwyd 2008-02-17.
  17. (Saesneg)"FA to probe new Emre race claims". BBC. 2007-02-16. Adalwyd 2008-02-17.
  18. (Saesneg)"Emre faces new racism allegation".[dolen marw] BBC. 2007-03-01. Adalwyd 2008-02-17.
  19. (Saesneg)"Emre cleared of FA racism charge". BBC. 2007-03-19. Adalwyd 2008-02-17.