Yr Ymerawdwr Shōwa (昭和天皇 Shōwa Tennō) (29 Ebrill 19017 Ionawr 1989) oedd 124fed ymerawdwr Japan. Fe deyrnasodd rhwng 25 Rhagfyr 1926, hyd ei farwolaeth yn 1989. Adnabyddir ef oddi allan i Japan gan yr enw Hirohito (裕仁), sef "benthyciadau gorfodol, niferus". Rhoddwyd yr enw Ymerawdwr Shōwa iddo ar ôl iddo farw a gelwir yr amser pan deyrnasodd y Cyfnod Shôwa (昭和時代 Cyfnod Hedd Goleuedig) yn Siapan. Fe oedd yn rheoli Siapan drwy gydol yr Ail Ryfel Byd. Ei deyrnasiad oedd yr un mwyaf hir o bob ymerawdwr. Ei fab hynaf, a'r ymerawdwr heddiw, yw Akihito.

Hirohito
Ganwyd29 Ebrill 1901 Edit this on Wikidata
Aoyama Edit this on Wikidata
Bu farw7 Ionawr 1989 Edit this on Wikidata
o duodenum cancer Edit this on Wikidata
Fukiage Gyoen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethJapan Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Gakushūin Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol, diplomydd, botanegydd morol, swolegydd, teyrn, pendefig Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Japan, Governor-General of the Philippines, Dai-gensui Edit this on Wikidata
Taldra1.65 metr Edit this on Wikidata
TadYmerawdwr Taishō Edit this on Wikidata
MamYr Ymerodres Teimei Edit this on Wikidata
PriodKōjun Edit this on Wikidata
PlantShigeko Higashikuni, Sachiko, Princess Hisa, Kazuko Takatsukasa, Atsuko Ikeda, Akihito, Ymerawdwr Japan, Masahito, Prince Hitachi, Takako Shimazu Edit this on Wikidata
LlinachLlys Ymerodrol Japan Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Cnu Aur, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd yr Eryr Gwyn, Prif Ruban Urdd y Blodau Paulownia, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Urdd Sant Andreas, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Order of the Golden Kite, Urdd y Cyfarchiad Sanctaidd, Urdd Rajamitrabhorn, Urdd y Gardas, Urdd Coron Brwnei, Urdd Brenhinol y Seraffim, Urdd yr Eliffant, Urdd Ojaswi Rajanya, Order of the Orchid Blossom, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Urdd Sikatuna, Urdd y Trysor Sanctaidd, Urdd y Baddon, Urdd Frenhinol Fictoraidd, Urdd Croes y De, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Coler Urdd Siarl III, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata
llofnod
Delwedd Hirohito o'r Ail Ryfel Byd

Ar ddechrau ei deyrnasiad, roedd Japan yn un o bwerau mawr y byd: y 9fed ar ôl yr Eidal o ran economi a'r trydydd o ran llynges arfog. Roedd hefyd yn aelod o Gynghrair y Cenhedloedd.[1] Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ni chafodd mo'i erlyn am droseddau rhyfel. Ceir llawer o ddadlau am ei ran ym mhenderfyniadau milwrol ei wlad, ac osgodd farwolaeth ar ddiwedd y rhyfel.[2] Wedi'r rhyfel daeth yn symbol o'r wlad newydd ac erbyn diwedd ei deyrnasiad, roedd Japan yn ail economi mwyaf y byd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Northedge, Frederick S. (1986). The League of Nations: Its Life and Times, 1920-1946. New York: Holmes & Meier. tt. 42–48. ISBN 978-0841910652.
  2. Y. Yoshimi and S. Matsuno, Dokugasusen Kankei Shiryô II, Kaisetsu, Jugonen Sensô Gokuhi Shiryoshu, 1997, t. 27–29