Gwladweinydd a chwyldroadwr o Fietnam a arweiniodd y wlad honno i annibyniaeth oddi ar Ffrainc oedd Ho Chi Minh (enw genedigol, Nguyễn Sinh Cung,[1] 19 Mai 1890 - 2 Medi 1969). Gwasanaethodd fel Prif Weinidog Fietnam o 1946 hyd 1955, ac fel Arlywydd Fietnam o 1955 tan ei farw. Ail-enwyd dinas Saigon yn Ddinas Ho Chi Minh er ei anrhydedd ar ddiwedd Rhyfel Fietnam ym 1976.

Ho Chi Minh
FfugenwNguyễn Ái Quốc, Hồ Chí Minh, Nguyễn Tất Thành Edit this on Wikidata
GanwydNguyễn Sinh Cung Edit this on Wikidata
19 Mai 1890 Edit this on Wikidata
Kim Liên Edit this on Wikidata
Bu farw2 Medi 1969 Edit this on Wikidata
o methiant y galon Edit this on Wikidata
Hanoi Edit this on Wikidata
Man preswylHanoi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGogledd Fietnam, Fietnam, French Annam, Indo-Tsieina Ffrengig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Communist University of the Toilers of the East
  • Quoc Hoc – Hue High School for the Gifted Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, gwleidydd, newyddiadurwr, person milwrol Edit this on Wikidata
Swyddmember of the National Assembly of Vietnam, General Secretary of the Communist Party of Vietnam, Arlywydd Fietnam, Prif Weinidog Fietnam Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCommunist Party of Vietnam, Plaid Gomiwnyddol Ffrengig, Adran Ffrengig o'r Gweithwyr Rhyngwladol Edit this on Wikidata
TadNguyễn Sinh Sắc Edit this on Wikidata
MamHoàng Thị Loan Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Lenin, Gold Star Order, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar a theulu golygu

Ganwyd Ho mewn cwt gwellt yn Kim Lien, pentref bychan yn ardal Nan Dan, ar 19 Mai 1890. Defnyddiodd yr enw Nguyen Sinh Cung nes oedd tua 10 oed, pan dewisodd ei dad enw arall iddo, Nguyen Tat Thanh.[2] Bu farw ei fam pan oedd yn 10 oed.[3]

Roedd ei dad, Nguyen Sinh Sac neu Nguyen Sinh Huy, yn fab i werinwr. Gweithiodd ar fferm a phriododd merch y ffermwr. Astudiodd llenyddiaeth Tsieineeg cyn ennill trwyddedog a dysgu yn Hué a Thanh Hoa. Ym 1905, penodwyd yn ysgrifennydd yn swyddfa seremonïol y palas imperialaidd yn Hué, yn fuan wedi marwolaeth ei wraig. Yn hwyrach daeth yn ddirprwy raglaw dros Bin Khe, ond cafodd ei ddiswyddo gan yr awdurdodau Ffrengig oherwydd ei gasineb tuag at ei waith. O hynny ymlaen bu'n byw bywyd crwydrol, gan deithio o Saigon i Phnom Penh ac Angkor. Bu farw mewn pagoda yng ngorllewin Cochinchina, tua 1930.[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Brocheux (2003), t. 2.
  2. Lacouture (1968), t. 8.
  3. Lacouture (1968), t. 10.
  4. Lacouture (1968), tt. 8–9.

Ffynonellau golygu

  • Brocheux, Pierre. Ho Chi Minh: A Biography (Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2003 [2007]). Cyfieithwyd gan Claire Duiker.
  • Lacouture, Jean. Ho Chi Minh (Llundain, Allen Lane, 1968 [1967]). Cyfieithwyd gan Peter Wiles.