Mae Hofranlong yn gerbyd gyda’r gallu i symud dros dir, dŵr, iâ a mwd. Maent yn gweithio gan chwythu awyr o dan y cerbyd ar bwysedd uwch na’r awyr o’u gwmpas. Fel arfer, mae llen llac neu sgert hyblyg yn cadw’r awyr o dan y cerbyd, tra chaniatáu symudiad dros wynebau anwastad.

Hofranlong yn gadael traeth Ryde, Ynys Wyth
1. Propelorr
2. aer
3. Tyrbin
4. Llen llac

Adeiladwyd hofranlong ym 1955 gan Syr Christopher Cockerell, a chafodd o patent ym 1956.[1] Roedd Syr John Isaac Thornycroft wedi cynllunio hofranlong yn ystod yr 1870au, ond doedd peiriannau ddim yn ddigon pŵerus tan yr ugeinfed ganrif.

Dechreuwyd gwasanaeth dros Afon Dyfrdwy gan gwmni Vickers ym Mehefin 1962, ac ym 1966 dechreuodd gwasanaethau ar Afon Clud rhwng Glasgow, Largs a Rothesay, a hefyd rhwng Portsmouth a Ryde, ar Ynys Wyth. Dechreuodd gwasanaeth dros Y Sianel, yn cario ceir yn ogystal â theithwyr, ym 1968.[1]

Cyfeiriadau golygu