Ardal hanesyddol yng ngorllewin yr Iseldiroedd yw Holand[1] (Iseldireg: Holland) sy'n cynnwys y ddwy dalaith Noord-Holland a Zuid-Holland.

Lleoliad Holand (oren) o fewn yr Iseldiroedd.

Crewyd Holand fel ardal weinyddol ar ddechrau'r 10g, ac yn cynnwys Seland a rhan o orllewin Ffrisia. Roedd yn dir gwrogaethol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn y 12g. Unodd â sir Hanawt ym 1299 dan y Cownt John Avesnes, ac ym 1345 daeth dan reolaeth teulu Wittelsbach, Bafaria drwy briodas. Daeth dan reolaeth Philip Dda, Dug Bwrgwyn ym 1433, a'r Habsbwrgiaid ym 1482. Er y rhyfela a'r ymryson gwleidyddol, ffynodd y diwydiant brethyn a masnach yn Holand a daeth ei phorthladdoedd yn drwybyrth pwysig yn y Cynghrair Hanseataidd a chanolfannau adeiladu llongau. Yn ystod y Rhyfel Pedwar Ugain Mlynedd, Holand oedd yr ardal a arweiniodd y frwydr am annibyniaeth yr Iseldirwyr oddi ar Sbaen, ac yn brif dalaith Gweriniaeth yr Iseldiroedd hyd 1795 gan ddominyddu'r Cynulliad. Rhannwyd yn ddwy dalaith ym 1840.

Mewn nifer o wledydd ac ieithoedd, gan gynnwys nifer o Holandwyr, defnyddir "Holand" i gyfeirio at y wlad i gyd. Enghraifft o gydgymeriad yw hwn, megis defnyddio Lloegr fel enw am holl wledydd Prydain. Mae'r defnydd hwn yn debyg o dramgwyddo Iseldirwyr sy'n byw y tu allan i ardal Holand.

Cyfeiriadau golygu