Prif gymeriad ffuglennol sydd yn dad y teulu Simpson yn y gyfres deledu animeiddiedig The Simpsons yw Homer Jay Simpson. Fe leisir gan Dan Castellaneta ac ymddangosodd ar deledu yn gyntaf, ynghŷd â gweddill ei deulu, yn y cartŵn byr "Good Night" ar The Tracey Ullman Show ar 19 Ebrill, 1987. Crewyd a dyluniwyd Homer gan y cartwnydd Americanaidd Matt Groening tra roedd yn aros yng nghyntedd swyddfa James L. Brooks. Cafodd Groening ei alw i gynnig cyfres o gartwnau byrion yn seiliedig ar ei strip comig Life in Hell ond penderfynodd i greu grŵp newydd o gymeriadau. Enwodd y cymeriad ar ôl ei dad Homer Groening. Wedi iddynt ymddangos ar The Tracey Ullman Show am dair mlynedd, ymddangosodd y teulu Simpson ar gyfres eu hunain ar Fox ar 17 Rhagfyr, 1989. Bellach mae The Simpsons yn parhau i gael ei gynhyrchu a'i ddarlledu ar deledu mewn nifer fawr o wledydd.

Homer Simpson
Enghraifft o'r canlynolbod dynol ffuglennol, animated television character, animated film character Edit this on Wikidata
CrëwrMatt Groening Edit this on Wikidata
Màs240 pwys Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolUnited States Navy Reserve Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Tad anfoesgar a digywilydd y teulu Simpson yw Homer. Mae ganddo fe a'i wraig Marge tri o blant: Bart, Lisa a Maggie. Fel enillwr cyflog y teulu mae'n gweithio yn Atomfa Springfield. Ymgorffora Homer nifer o ystrydebau dosbarth gweithiol Americanaidd: mae'n amrwd, gordew, analluog, lletchwith, a diog; ond mae hefyd yn hynod o ymroddedig i'w deulu. Er gwaethaf trefn reolaidd ei fywyd coler las maestrefol, mae Homer wedi cael nifer o brofiadau rhyfeddol.

Yn y cartwnau byrion a phenodau cynnar, lleisiodd Castellaneta Homer fel dynwarediad bras o Walter Matthau; ond yn ystod ail a thrydydd dymhorau'r rhaglen hanner-awr datblygodd llais Homer yn fwy cadarn er mwyn galluogi mynegiant eangach o emosiynau. Ymddangosa Homer mewn cyfryngau eraill sy'n gysylltiedig â The Simpsons – yn cynnwys gemau fideo, Y Simpsons Ffilm, The Simpsons Ride, hysbysebion a llyfrau comig – ac mae wedi sbarduno llinell o farsiandïaeth. Cynhwysir ei ymadrodd cyffredin, y rhoch drallodus "d'oh!", yng Ngeiriadur Saesneg Newydd Rhydychen ers 1998 a Geiriadur Saesneg Rhydychen ers 2001.

Homer yw un o'r cymeriadau ffuglennol mwyaf dylanwadol ar deledu: disgrifiwyd gan The Sunday Times fel "cread comig gorau yr oes [fodern]". Enwyd fel yr ail gymeriad cartŵn gorau gan TV Guide a chafodd ei ethol fel y cymeriad teledu gorau erioed gan wylwyr Channel 4. Enillodd Castellaneta dair Wobr Emmy am Berfformiad Lleisiol Ardderchog a Gwobr Annie arbennig am leisio Homer. Yn 2000, cafodd Homer, ynghŷd â gweddill ei deulu, ei wobrwyo gyda seren ar y Hollywood Walk of Fame.

Dolenni allanol golygu