Arlunydd, cerflunydd a chartwnydd o Ffrancwr oedd Honoré Daumier (26 Chwefror 180810 Chwefror 1879). Roedd yn enwog am ei wawdluniau o wleidyddwyr Ffrainc yn y 19g. Ym 1830 dechreuodd gyfrannu cartwnau at y cyfnodlyn Caricature; fe'i garcharwyd am gyfnod byr ym 1832 am wawdio'r brenin Louis-Philippe. Gwaharddwyd dychan gwleidyddol yn Ffrainc ym 1835 a bu'n rhaid i Daumier droi at ddychanu bywyd cyfoes. Dychwelodd at ddychan gwleidyddwyr Ffrainc yn y chwyldro a fu yn Ffrainc ym 1848.

Honoré Daumier
FfugenwDaumier, Honore, Daumier, Honore Victorin Edit this on Wikidata
Ganwyd26 Chwefror 1808 Edit this on Wikidata
Marseille Edit this on Wikidata
Bu farw10 Chwefror 1879 Edit this on Wikidata
Valmondois Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, drafftsmon, cartwnydd dychanol, cerflunydd, lithograffydd, engrafwr, darlunydd, arlunydd graffig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • La Caricature
  • La Silhouette
  • Le Charivari Edit this on Wikidata
Adnabyddus amRatapoil, The Third-Class Carriage Edit this on Wikidata
Arddullcaricature, figure Edit this on Wikidata
Mudiadrealaeth Edit this on Wikidata
PriodAlexandrine Dassy Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau golygu

  • Langdon, Helen. "Daumier, Honoré", The Oxford Companion to Western Art