Howard Marks

actor a aned yn 1945

Daeth Dennis Howard Marks, neu Mr. Nice (13 Awst 194510 Ebrill 2016)[1] yn ddrwg-enwog fel smyglwr hashish rhyngwladol trwy nifer o achosion llys â phroffil uchel, cysylltiadau tybiedig gyda grŵpiau megis MI6, yr IRA, a'r Mafia, a'i euogfarniad yn y pen draw gan Weinyddiaeth Gorfodaeth Cyffuriau Americanaidd.

Howard Marks
GanwydDennis Howard Marks Edit this on Wikidata
13 Awst 1945 Edit this on Wikidata
Mynyddcynffig Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ebrill 2016 Edit this on Wikidata
Leeds Edit this on Wikidata
Man preswylPalma de Mallorca, Leeds Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, hunangofiannydd, ysgrifennwr, deliwr cyffuriau, arlunydd Edit this on Wikidata
PlantAmber Marks Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://howardmarks.name/ Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Marks ym Mynydd Cynffig, ger Pen-y-bont ar Ogwr Mynychodd Ysgol Ramadeg y Garw a Coleg Balliol, Rhydychen rhwng 1964 a 1967 i astudio Gradd (B.A., Oxon) Gwyddoniaeth Naturiol, Ffiseg cyn astudio ym Mhrifysgol Llundain rhwng 1967 ac 1968 (graddiodd o'r Athrofa Ffiseg). Dychwelodd i Balliol, Rhydychen i astudio Hanes ac Athroniaeth (Dip. H.Ph. Sc.) rhwng 1968 a 1969, ac yna i Brifysgol Sussex i astudio Athroniaeth Gwyddoniaeth rhwng 1969 a 1970 (M.A., Oxon).

Cymraeg yw mamiaith Howard Marks[2] ond nid yw'n ystyried ei Gymraeg ysgrifenedig yn gwbl rhugl.[3]

Gyrfa smyglo cyffuriau golygu

Fe dreuliodd saith mlynedd mewn carchar ym Mhenydfa'r Unol Daleithiau, Terre Haute. Yn ystod ei yrfa smyglo, honnir iddo wrthod defnyddio trais a gwrthododd ddelio mewn cyffuriau caled.

Bywyd ar ôl y carchar golygu

Ers ei ryddhau o'r carchar, mae Marks wedi cyhoeddi hunangofiant, Mr Nice (Secker and Warburg, 1996), a ddaeth yn werthwr-gorau, ac sydd wedi cae ei gyfieithu i nifer o ieithoedd. Ynghyd â Mr Nice, mae hefyd wedi casglu antholeg The Howard Marks Book of Dope Stories (Vintage, 2001) ac yn fwy diweddar, dilyniant i'w hunangofiant; Señor Nice: Straight Life From Wales to South America. Yn 2003, cyhoeddodd un o bartneriaid Howard yn y 'movement of beneficial herbs industry', Phil Sparrowhawk hunangofiant ei hun, a ysgrifennwyd gyda Martin Knight, Grass, (Mainstream 2003). Mae Marks yn ymgyrchydd dros gyfreithloni cannabis ac mae'n teithio'r byd fel sioe un dyn. Ymddangosodd hefyd yn y rhaglen ddogfen Stoned in Suburbia a ddarlledwyd ar Sky One yng ngwledydd Prydain.

Sefodd Howard Marks fel ymgeisydd ar gyfer Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 1997, dros fater sengl yr ymgyrch i gyfreithloni cannabis. Ymgeisiodd am bedair sedd ar unwaith: De Norwich (yn erbyn yr ysgrifennydd cartref i ddod Charles Clarke), Gogledd Norwich, Castell-nedd a Southampton Test. Enillodd bleidlais ar gyfartaledd o 1%.

Arweiniodd hyn at ffurfiad y Legalise Cannabis Alliance (LCA) gan Alun Buffry yn 1999.

Bywyd personol golygu

Erbyn hyn mae'n byw yn Palma de Mallorca. Estraddodwyd ef a'i gyn-wraig erbyn hyn, Judy Marks, o Mallorca, Sbaen i Florida. Mae ganddynt dri o blant; Amber, Francesca a Patrick. Mae ganddo hefyd ferch hŷn, Myfanwy, o berthynas pum mlynedd gyda Rosie Lewis. Mae Judy Marks hefyd wedi ysgrifennu hunangofiant o'u bywyd gyda'i gilydd, Mr Nice and Mrs Marks, a gyhoeddwyd gan Ebury Press yn 2006.

Yn 2015 canfuwyd fod ganddo ganser anwelladwy o'r coluddyn a bu farw yn Ebrill 2016.[1]

Cyfeirnodau yn niwylliant poblogaidd golygu

  • Gwnaeth Howard Marks ymddangosiad cameo yn y ffilm Human Traffic, yn disgrifio 'gwleidyddiaeth sbliff'.
  • Gwmaeth ymddangosiad cameo arall yn y gomedi sefyllfa Germination ar MTV UK, sydd yn dilyn dau flatmate sy'n delio cyffuriau,[4].
  • Ef yw'r Diafol yn Dirty Sanchez: The Movie
  • Mae'n destun i'r gân Hangin' with Howard Marks gan y Super Furry Animals, a ryddhawyd ar eu halbwm Fuzzy Logic. Ymddangosa Marks ar y clawr mewn amryw o guddwisgoedd - lluniau pasbost honedig o'i oes fel trafnidiwr cyffuriau. Daethant yn ffrindiau yn ddiweddarach, gan haeddu sôn yn ei hunangofiant.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Kevin Rawlinson (10 Ebrill 2016). 'Mr Nice' Howard Marks dies aged 70. The Guardian. theguardian.co.uk.
  2. Marks, Howard. Mr Nice (Vintage, 2010), t. 26. ("For the first five years of my life, I spoke only Welsh.")
  3.  Gareth Miles (25 Chwefror 2010). Howard Marks a Fi. BBC Cymru. "ymddiheurai Howard nad oedd ei Gymraeg ysgrifenedig yn ddigon rhywiog iddo allu dweud dim o bwys"
  4. Top Buzzer

Dolenni allanol golygu