Howell Elvet Lewis (Elfed)

gweinidog (A); emynydd, bardd

Bardd ac emynydd oedd Howell Elvet Lewis (14 Ebrill 186010 Rhagfyr 1953), sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Elfed. Fe'i ganed yn y Gangell, Blaen-y-coed, Sir Gaerfyrddin. Roedd yn weinidog ac yn Archdderwydd rhwng 1924 a 1928. Mae ei waith barddonol yn nodweddiadol o gynnyrch y Bardd Newydd.

Howell Elvet Lewis
FfugenwElfed Edit this on Wikidata
Ganwyd14 Ebrill 1860 Edit this on Wikidata
Blaen-y-coed Edit this on Wikidata
Bu farw10 Rhagfyr 1953 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin
  • Ysgol Ramadeg Emlyn Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PlantMalcolm Lewis Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Elfed.

Bywgraffiad golygu

Ef oedd yr hynaf o ddeg o blant. Bu ei frawd Tom yn Athro Hebraeg ym Manceinion ac yn brifathro Coleg Diwinyddol Aberhonddu am 39 mlynedd. Roedd brawd arall, Dan, yn newyddiadurwr yn Lerpwl ac wedyn yn olygydd y Glamorgan Free Press ym Mhontypridd. Efallai mai'r enwocaf y tu allan i Gymru oedd y pensaer a pheirianwr sifil Lewis Holme Lewis. Teilwr oedd John Lewis tadcu Elfed Lewys, ac yr unig un o'r brodyr a chwiorydd a fagodd blant yn Gymraeg.[1]

Gwaith llenyddol golygu

Ymhlith cerddi mwyaf adnabyddus Elfed mae 'Gwyn ap Nudd' (telyneg telyneg am frenin y Tylwyth Teg) a'r 'Ddau Frawd'. Ar y cyfan ni phrisir ei farddoniaeth lawer heddiw oherwydd tuedd y bardd at sentimentaliaeth ramantaidd. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1888 ac 1891, a'r Gadair yn 1894.

Ysgrifennodd nifer o emynau yn Gymraeg a Saesneg. Fel hanesydd llên, cyhoeddodd gyfrolau ar waith Ceiriog, Morgan Rhys ac Ann Griffiths.

Llyfryddiaeth ddethol golygu

Gwaith Elfed golygu

  • My Christ and other poems (1891). Cerddi.
  • Planu Coed (1894). Ysgrifau.
  • Caniadau (2 gyfrol: 1895, 1901). Cerddi.
  • Songs of Assisi (1938). Cerddi.
  • Gyda'r Hwyr (1945). Ysgrifau.

Cofiant golygu

Cyhoeddwyd cofiant iddo gan Emlyn G. Jenkins yn 1957.

Cyfeiriadau golygu

  1. Elfed - Cawr ar goesau byr. Ioan Robers. Lolfa 2000