Roedd Howell Evans (3 Mawrth 19289 Medi 2014) yn actor, digrifwr, a chanwr Cymreig bu'n gweithio yn helaeth ym myd teledu a'r theatr mewn gyrfa a pharodd am dros 60 mlynedd. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel "Dad" yn y rhaglen gomedi Stella ar sianel deledu Sky1.[1]

Howell Evans
Ganwyd3 Mawrth 1928 Edit this on Wikidata
Maesteg Edit this on Wikidata
Bu farw9 Medi 2014 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodPatricia Kane Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Cafodd ei eni ym Maesteg, a dechreuodd perfformio fel dynwaredwr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl y rhyfel, ymunodd â'r Carroll Levis Discovery Show, a ffurfiodd deuawd comedi gyda'i wraig, Pat Kane. Bu Evans a Kane yn gweithio gyda'i gilydd am nifer o flynyddoedd mewn sioeau adloniant y neuadd cerddoriaeth, a phantomeim. Ymddangosodd mewn nifer o sioeau teledu gan gynnwys Coronation Street, Casualty, Open all Hours, a The Story of Tracy Beaker a'r gyfres comedi Cymreig Satellite City. Bu hefyd yn actio mewn ffilmiau megis Mr Nice a The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain.

Bu farw yn Crowthorne, Berkshire ar 9 Medi 2014 yn 86 mlwydd oed.[2]

Gyrfa golygu

Theatr golygu

Roedd gyrfa theatr Evans yn cynnwys gweithio gyda phrif gwmnïau Cymru gan gynnwys Theatre Wales (Translations gan Brian Friel, 1982) a Theatr Clwyd (fel Malvolio yn Twelfth Night, 1984) a Theatr y Sherman, Caerdydd (Ed yn Entertaining Mr Sloane, 1988).

Yn Theatr Northcott, Exeter, chwaraeodd rhannau Uncle Vanya (1986) a Willy Loman yn The Death Of A Salesman (1987). Roedd ymddangosiadau eraill ar y llwyfan yn nrama Kander ac Ebb 70 Girls 70 gyda Dora Bryan (Theatre Royal Caerfaddon, 1992), School for Scandal (Salisbury Playhouse, 1996) a drama iasoer Patrick Hamilton Rope (Lyceum Theatre, Crewe, 1997)[3].

Teledu golygu

Ymddangosodd Evans mewn nifer fawr o raglenni teledu dros gyfnod o 60 mlynedd, gan amlaf yn chware ran y Cymro ystrydebol[4], gan gynnwys (anghyflawn):

Blwyddyn Teitl Cymeriad Cyhoeddwr Nodiadau
2012–15 Stella Daddy Sky 1 Cyfres 1, 2, 3 a 4
2013 Holby City Marc Greene BBC
2012 The Life and Adventures of Nick Nickleby Mr. Bolder BBC
2012 Sadie J Mr. Snodgrass CBBC
2009 Benidorm Skipper ITV
2007 Doctors Ernie Spencer BBC
2006 Young Dracula Atilla BBC Cymru
2005 Casualty Jeff BBC Thrown Out
2005 Little Britain Mr. Jenkins BBC Pennod #2.6 (2004)
2003–2004 The Story of Tracy Beaker Grandpa Jack CBBC Cyfres 3 a 4
2003 My Family Mr. Rhys BBC They Shoot Harpers, Don't They?
2000 Coronation Street Tegwin Thomas ITV
1997-1998 Aquila Mr. Evans BBC
1997 The Bill Eric Harkness ITV Pennod Auld Lang Syne (1997)
1997 Satellite City Alf BBC Cymru Pennod With a Face Like Mine
1995 Wales Playhouse Peg Evans BBC Cymru Pennod Princess of Wales (1995)
1994 The Sherman Plays HTV Cymru Pennod The Sisters Three
1994 The Lifeboat Doc Lewis Bloom Street Productions Pennod Homecomings
1989–1991 We Are Seven William Price ITV
1993 You, Me and It Dr. Burgess BBC 2 bennod
1992 The Old Devils Garth Pumphrey BBC 3 Pennod
1991 Old Scores Lloyd Thomas South Pacific Pictures Seland Newydd a HTV Cymru
1989 The Play on One Sid BBC Pennod Unexplained Laughter
1989 Screen Two Chief Buffalo Coach BBC 2 Pennod Defrosting the Fridge
1987 First Sight Des pennod Who's Our Little Jenny Lind?
1987 The District Nurse Phil Howells BBC Cymru 2 bennod
1985 Open All Hours Victor BBC Pennod The Errand Boy Executive
1984 The Magnificent Evans Mr Jenkins BBC
1981 A Spy at Evening Jones BBC Pennod #1.1
1975 Z Cars Prif Uwch-arolygydd Norton BBC Pennod Thanks But... No Thanks
1973 The Regiment Dilawar Khan BBC Pennod North West Frontier
1971 Brett Darrell BBC Pennod The Ruined Valley
1970 Play for Today Bob BBC Pennod The Hallelujah Handshake
1970 Never Say Die Probert Yorkshire Television Pennod The Criminal
1970 Shine a Light Capt. Taffy Lewis Yorkshire Television 4 pennod
1970 Parkin's Patch Arthur Jackson Yorkshire Television Pennod Wisemen
1968 For Amusement Only Dyn yn y dafarn #5 London Weekend Television (LWT) Pennod Time for the Funny Walk
1967 Micky Man Mr. Moriarty BBC ffilm teledu
1967 The Newcomers Tocynnwr BBC Pennod #1.138 Bus conductor
1967–69 Softly, Softly DC Morgan/PC Thomas BBC1
1964 Crossroads Dudley Scrivens ITV
1964 Davy Jones Frankie the Wern BBC Cymru 7 pennod
1961 The World of Tim Frazer Gwas sifil BBC Pennod The Mellin Forrest Mystery: Part 1
1960 BBC Sunday-Night Play Iorwerth BBC Pennod The Squeeze
1960 How Green Was My Valley Glowr BBC Pennod The First Rift
1959 The Davy Jones Saga Frankie the Wern BBC Cymru 5 pennod
1953 Behind the Headlines BBC Ffilm wedi selio ar y gyfres radio The Goons

Ffilm golygu

Blwyddyn Teitl Cymeriad
2011 The Shop Scobie
2010 Bubbles Taid
2010 Mr Nice George y sgowt
2009 The Cornet Player
2002 Plotz with a View Dr Owen
2001 Arthur's Dyke Retired Husband
1995 The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain Thomas the Trains
1964 Under Milk Wood Nogood Boyo
1952 Down Among the Z Men

Cyfeiriadau golygu

  1. "Primetime: Ruth Jones Comedy 'Stella' Gets A Second Series". UnrealityTV. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-11. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Wales Online, 10 Medi 2014 Tributes paid to actor Howell Evans who played Daddy in Ruth Jones' Sky 1 show Stella Archifwyd 2013-07-11 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 28/5/2018
  3. The Stage Obituary: Howell Evans adalwyd 03/06/2018
  4. Golwg360 Actor ‘Stella’ wedi marw adalwyd 03/06/2018

Dolenni allanol golygu