Mae hufen yn gynnyrch llaeth a ddaw o'r haenen sydd yn cynnwys lefel uwch o fraster menyn oddi ar dop llefrith cyn iddo gael ei homogeneiddio. Bydd y braster sy'n ysgafnach na'r hylif yn codi i dop y botel dros gyfnod o amser, mewn llefrith sydd heb gael i homogeneiddio. Cyflymir y broses hon yn y ddiwydiant cynhyrchu gan ddefnyddio allgyrchydd a gaiff ei alw'n "wahanwyr". Gwerthir hufen ar sail y cynnwys braster mewn nifer o wledydd. Gall hufen gael ei sychu i ffurf powdr ar gyfer ei allforio i farchnadoedd pell.

Hufen
Mathcynnyrch llaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn aml, mae hufen a gynhyrchir gan wartheg (yn arbennig gwartheg Jersi) sy'n pori ar borfa naturiol, yn cynnwys rhai pigmentau carotenyn sy'n deillio o'r planhigion maent yn eu bwyta; mae hyn yn rhoi lliw melyn golau i'r hufen, a dyna beth roddir yr enw i'r lliw hufen. Gwyn yw'r hufen a gynhyrchir gan wartheg sy'n gael eu bwydo dan do, ar rawn neu belenni sydd wedi eu creu o rawn.

Hufen sengl

Mathau o hufen golygu

Diffinnir y gwahanol fathau o hufen yng ngwledydd Prydain yn gyfreithiol fel yr isod[1]:

Enw Isafswm
braster
Diffiniad ychwanegol Prif defnydd
Hufen tolch 55% wedi ei drin gyda gwres Gyda sgon a jam
Hufen dwbl 48% yn chwipio orau, ar gyfer pwdinau, gall cael ei beipio
Hufen chwipio 35% yn chwipio'n dda ond yn ysgafnach
Hufen chwisgiedig 35% wedi cael ei chwipio
Hufen wedi ei sterileiddio 23% wedi ei sterileiddio
Hufen sengl 18% heb ei sterileiddio yn cael ei arllys ar bwdinau neu mewn coffi
Hufen hanner wedi ei sterileiddio   12% wedi ei sterileiddio
Hufen hanner 12% heb ei sterileiddio defnyddir mewn coffi yn unig

Cyfeiriadau golygu

  1. The Cheese and Cream Regulations 1995 (SI 1995 No. 3240) ISBN 0110538536

Gweler hefyd golygu

Chwiliwch am hufen
yn Wiciadur.