Hugh Evans

awdur a chyhoeddwr llyfrau (1854-1934)

Cyhoeddwr ac awdur oedd Hugh Evans (14 Medi 185430 Mehefin 1934). Sefydlodd Wasg y Brython ac roedd yn awdur sawl llyfr ac erthygl am fywyd cefn gwlad Cymru a llên gwerin Cymru, yn ogystal â chyfres o lyfrau i blant.

Hugh Evans
Ganwyd14 Medi 1854 Edit this on Wikidata
Llangwm Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mehefin 1934 Edit this on Wikidata
Cynwyd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, cyhoeddwr, gwerthwyr deunydd ysgrifennu, argraffydd Edit this on Wikidata

Brodor o bentref bychan Llangwm, Sir Ddinbych (sir Conwy heddiw), oedd Hugh Evans. Dim ond ychydig o addysg elfennol a gafodd cyn mynd i weithio fel gwas fferm yn ei fro. Symudodd i Lerpwl lle sefydlodd Wasg y Brython yn 1875, a ddaeth yn un o gyhoeddwyr Cymraeg mwyaf y dydd.

Fel llenor a hynafiaethydd roedd ganddo ddiddordebau eang. Sefydlodd y cylchgrawn hynafiaethol Y Brython yn 1906 ac yn 1911 dechreuodd gyhoeddi'r cylchgrawn beirniadol dylanwadol Y Beirniad, dan olygyddiaeth Syr John Morris-Jones. Ysgrifennodd gyfrol ddiddorol ar chwedlau gwerin am y Tylwyth Teg yn 1935. Ysgrifennodd gyfres o straeon a llyfrau eraill i blant hefyd, e.e. Hogyn y Bwthyn Bach To Gwellt. Ond fe'i cofir yn bennaf am ei glasur bach Cwm Eithin (1931), sy'n disgirifio mewn ffordd gofiadwy arferion a chymdeithas y Gymru wledig, seiliedig yn bennaf ar ei wybodaeth am ei fro enedigol.

Llyfryddiaeth golygu

Llyfrau Hugh Evans golygu

  • Camau'r Cysegr (Lerpwl, 1926)
  • Cwm Eithin (Lerpwl, 1931; sawl argraffiad arall). Cyfieithwyd i'r Saesneg dan y teitl Gorse Glen (1948)
  • Hogyn y Bwthyn Bach To Gwellt (Lerpwl, 1935)
  • Y Tylwyth Teg (Lerpwl 1935; sawl argraffiad ar ôl hynny)

Astudiaethau golygu

  • Richard Huws, 'Hugh Evans', yn Dewiniaid Difyr, gol. Mairwen a Gwynn Jones (Gwasg Gomer, 1983)