Hugh Price

sylfaenydd a noddwr cyntaf Coleg Iesu, Rhydychen

Roedd Hugh Price (tua 14951574) yn gyfreithiwr a chlerigwr Cymreig o Aberhonddu ac yn un o brif sefydlwyr Coleg yr Iesu, Rhydychen, y coleg cyntaf i'w sefydlu yn Rhydychen ar ôl y Diwygiad Protestannaidd.[1] Cofnodir ei enw ar adegau fel 'Hugh Aprice'. Yn 1571 perswadiodd y frenhines Elisabeth I i roi siarter brenhinol i'r sefydliad a daeth hwnnw i rym ar 27 Mehefin 1571. Noda'r siarter hon mai'r frenhines yw sefydlydd y coleg, a chyfeirir at Hugh Price fel 'y noddwr cyntaf'.

Hugh Price
Ganwyd1495 Edit this on Wikidata
Aberhonddu Edit this on Wikidata
Bu farwAwst 1574 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr Edit this on Wikidata

Cyfrannodd yn ariannol at godi'r coleg hwnnw; ar ei farwolaeth gadawodd hefyd 100 Marc a £60 y flwyddyn (a'i lyfrgell), ar yr amod y cydnabyddir ef (yn hytrach na'r frenhines) yn 'Sefydlydd y Coleg'. Amod arall oedd ei hawl i benodi Prifathrawon, Cymrodorion a myfyrwyr i'r coleg. Pan y bu farw, rhan o'r coleg oedd wedi'i godi; cychwynwyd ar y gwaith o adeiladu'r 'cwod' yn 1571.

Y blynyddoedd cynnar golygu

Ganwyd Hugh Price yn Aberhonddu, yn fab i gigydd lleol, Rhys ap Rhys. Nid oes sicrwydd ym mhle y cafodd ei addysg cynnar: naill ai yn Aberhonddu ei hun neu yn Osney Abbey ger Rhydychen. Aeth yn ei flaen i Brifysgol Rhydychen ble y derbyniodd radd Bachellor mewn Cyfraith Sifil (BCL) ac yna Bachellor yng Nghyfraith yr Egwlys (neu 'Gyfraith Ganon'). Yn 1526 gorffennodd ddoethuriaeth mewn Cyfraith Ganon.

Gwaith golygu

Gwyddom iddo fod yn un o farnwyr a ddyfarnodd James Bainham i farwolaeth am heresi yn 1532.[2] Yn 1541 fe'i penodwyd yn Drysorydd dwy gadeirlan: Tyddewi a Rochdale ac erbyn 1572 gwyddom iddo ddychwelyd i Aberhonddu i fyw. Parhaodd yn y swydd yn brebendari eglwys Rochdale am weddill ei oes.

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 25 Mawrth 2015
  2. www.exclassics.com; adalwyd 25 mawrth 2015