Sefydlwyd gwasg Hughes a'i Fab yn Wrecsam gan Richard Hughes yn 1824.[1] Prynwyd y wasg gan S4C yn 1982[1][2] gyda'r bwriad o gyhoeddi llyfrau Cymraeg yn seiliedig ar raglenni'r sianel newydd. Mae'r wasg eisoes wedi ei leoli gyda S4C yn Llanisien, Caerdydd.

Hughes a'i Fab
Enghraifft o'r canlynolcyhoeddwr Edit this on Wikidata
Rhan oy fasnach lyfrau yng Nghymru Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1824 Edit this on Wikidata
PerchennogS4C Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
SylfaenyddRichard Hughes, Charles Hughes Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Logo Hughes a'i Fab

O ddiwedd y 1920au hyd 1955, Hughes a'i Fab oedd cyhoeddwyr Y Llenor, prif fforwm llenyddol y cyfnod hwnnw.

Yn y 1930au, cafodd cylchgrawn misol poblogaidd Y Ford Gron ei gyhoeddi gan Hughes a'i Fab.

Cedwir archifau'r cwmni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni Allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.