Humphrey Humphreys

esgob Bangor a Henffordd (yn olynol), hynafiaethydd, hanesydd, ac achyddwr

Roedd Humphrey Humphreys (24 Tachwedd 1648 - 20 Tachwedd 1712) yn Esgob Bangor rhwng 1689 a 1701, ac yna'n Esgob Henffordd hyd ei farwolaeth.

Humphrey Humphreys
Ganwyd24 Tachwedd 1648 Edit this on Wikidata
Penrhyndeudraeth Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 1712 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Henffordd, Esgob Bangor Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaCymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed ef yn hen blasty'r Hendre, Penrhyndeudraeth. Roedd Humphreys yn esgob diwygiedig effeithiol ac yn Gymro twymgalon: yn ôl Edward Lhuyd ef oedd Cymro mwyaf ei oes. Roedd yn achyddwr, ysgolhaig a Christion nodedig. Claddwyd ei rieni - Richard Humphreys a Margaret Wynn (o deulu Cesailgyfarch, Penmorfa) ym mynwent hen eglwys Llanfrothen. Bu'n Ddeon Bangor cyn dod yn esgob. Bu farw Humphreys tra'n esgob Henffordd yn 1712.

Cyfeiriadau golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.