Humphrey Mackworth

diwydiannwr a seneddwr

Sais o Swydd Amwythig a ymgartrefodd yn ne Cymru ac a ddaeth yn un o brif ddiwydianwyr y wlad ar ddechrau'r 18g oedd Syr Humphrey Mackworth (1657 - 1727). Fe'i cofir hefyd fel un o sylfaenwyr llëyg y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol.

Humphrey Mackworth
GanwydIonawr 1657 Edit this on Wikidata
Swydd Amwythig Edit this on Wikidata
Bu farw25 Awst 1727 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1af Prydain Fawr, Aelod o 3ydd Senedd Prydain Fawr, Aelod o Senedd 1701, Aelod o Senedd 1702-05, Aelod o Senedd 1705-07 Edit this on Wikidata
TadThomas Mackworth Edit this on Wikidata
MamAnne Bulkeley Edit this on Wikidata
PriodMary Evans Edit this on Wikidata
PlantHerbert Mackworth, William Mackworth Praed, Kingsmill Evans Mackworth Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Priododd â Mary, merch Syr Herbert Evans o'r Gnoll ger Castell-nedd ac etifeddodd ei wraig llawer o'r ystâd. Bu'n arloeswr y diwydiant glo yn Ne Cymru a bu ganddo ran flaenllaw yn sefydlu'r diwydiant copr yno hefyd. Cafodd ystad Gogerddan, Ceredigion yn nes ymlaen a dechreuodd fwyngloddio yn y sir honno yn 1698 : un o fentrau ei gwmni y Mines Adventurers oedd y gwaith copr yn Ffwrnais Dyfi.[1]

Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros yr hen Sir Aberteifi yn 1701.

Roedd yn ddyn busnes caled sydd wedi cael ei gyhuddo o arfer dulliau llai na theg - bu rhaid iddo ymddiswyddo o'r Mines Adventurers yn 1708 ar ôl cael cyhuddiad o dwyll yn ei erbyn[2] - ac eto ar yr un pryd roedd yn barod iawn i roi i elusennau, gan gynnwys y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol. Ysgrifennodd sawl llyfr crefyddol hefyd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Ben Bowen Thomas, Braslun o Hanes Economaidd Cymru (Caerdydd, 1941), tud. 100.
  2. Ben Bowen Thomas, op. cit., tud. 100.