Huw Irranca-Davies

gwleidydd Cymreig ac Aelod o'r Cynulliad

Gwleidydd Llafur yw Ifor Huw Irranca-Davies[1] (ganwyd 22 Ionawr 1963) sydd yn Aelod o'r Senedd dros Ogwr ers 2016. Cyn hynny roedd yn Aelod Seneddol (San Steffan) dros Ogwr rhwng 2002 a 2016.

Huw Irranca-Davies
AS
Irranca-Davies yn 2016
Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol
Yn ei swydd
3 Tachwedd 2017 – 13 Rhagfyr 2018
Prif WeinidogCarwyn Jones
Rhagflaenwyd ganRebecca Evans
Dilynwyd ganDiddymwyd y swydd
Is-Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd Forol a Naturiol
Yn ei swydd
5 Hydref 2008 – 6 Mai 2010
Prif WeinidogGordon Brown
Rhagflaenwyd ganJonathan Shaw
Dilynwyd ganRichard Benyon
Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Yn ei swydd
2 Gorffennaf 2007 – 5 Hydref 2008
Prif WeinidogGordon Brown
Rhagflaenwyd ganNick Ainger
Dilynwyd ganWayne David
Aelod o Senedd Cymru
dros Ogwr
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 2016
Rhagflaenwyd ganJanice Gregory
Aelod Seneddol
dros Ogwr
Yn ei swydd
14 Chwefror 2002 – 24 Mawrth 2016
Rhagflaenwyd ganRay Powell
Dilynwyd ganChris Elmore
Manylion personol
GanwydIfor Huw Davies
(1963-01-22) 22 Ionawr 1963 (61 oed)
Tre-gŵyr, Abertawe
CenedligrwyddCymro
Plaid wleidyddolLlafur Cyd-weithredol
PriodJoanna Irranca (adnabyddir fel Joanna Irranca-Davies)
PerthnasauIfor Davies (Ewythr)
Plant3
SwyddGwleidydd
Gwefanhuwirranca-davies.org.uk

Ar ôl gwasanaethu fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat yn Swyddfa Gogledd Iwerddon, yr Adran Gwaith a Phensiynau, a'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, daeth yn Gynorthwyydd Chwip ym mis Mai 2006. Ar 29 Mehefin 2007, fe'i penodwyd yn is-Ysgrifennydd Seneddol Gwladol Cymru, cyn cael ei ddyrchafu i rôl is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Ymddiswyddodd Irranca-Davies o'i sedd yn San Steffan ym mis Mawrth 2016 er mwyn sefyll yn yr un etholaeth ar gyfer etholiad Cynulliad Cymru ym mis Mai 2016.[2]

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Ifor Huw Davies yn 1963, yn fab i Teresa Davies a Gethin Davies. Mae ganddo atgofion cynnar o ymgyrchu mewn etholiadau cyffredinol dros ei ewythr, Ifor Davies, AS ar gyfer Gŵyr a dirprwy i Cledwyn Hughes yn y Swyddfa Gymreig yn llywodraeth Harold Wilson.[3]

Aeth Davies i Ysgol Gyfun Tregwyr (lle'r oedd ei fam yn ysgrifenyddes), ac yn ddiweddarach enillodd BA (Anrh) yng Ngholeg Crewe ac Alsager, a MSc o Brifysgol Fetropolitan Abertawe.

Ar ôl gadael addysg uwch bu'n gweithio i awdurdodau lleol mewn rheolaeth hamdden; a pan oedd yn gweithio mewn canolfan chwaraeon cyfarfu ei wraig, Joanna Irranca, aelod o deulu Eidalaidd a oedd wedi dod i weithio yn ne Cymru yn yr 1950au. Pan briododd y cwpl newidiodd y ddau eu cyfenwau i Irranca-Davies.[3]

Yn ddiweddarach, gweithiodd Irranca-Davies mewn rheolaeth yn y sector breifat ac fel darlithydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe.

Aelod o Senedd San Steffan golygu

Yn 2001 roedd yn ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed, ond gorffennodd yn drydydd, y tu ôl i ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr.

Yn yr isetholiad a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2002 cafodd ei ethol i sedd seneddol Ogwr yng Nghymoedd De Cymru (sedd wedi ei ddal gan Lafur ers 1918); galwyd yr isetholiad yn dilyn marwolaeth yr Aelod Seneddol a Chwip y Llywodraeth Syr Ray Powell. (Penodwyd Irranca-Davies ei hun fel Chwip y Llywodraeth ar gyfer Cymru ym mis Mai 2006 ar ôl cyfnodau fel Cynorthwyydd Seneddol mewn sawl adran o'r llywodraeth.) Cafodd ei ail-ethol i wasanaethu Ogwr yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005 ym Mai 2005 ac eto ym Mai 2010. Yn 2010, cafodd etholaeth Ogwr y mwyafrif seneddol mwyaf o unrhyw blaid ac etholaeth yng Nghymru.

Ers ei ethol yn 2002 mae Irranca-Davies wedi gweithio ar amrywiaeth o faterion lleol a chenedlaethol, gan gynnwys eistedd ar y Pwyllgor Dethol Gweithdrefnau i drafod ffyrdd o foderneiddio gwaith y Senedd, ac mae hefyd wedi eistedd ar Bwyllgorau Sefydlog ar gyfer Deddf Diwygio'r Heddlu, Deddf Tân Gwyllt a Deddf Cyfathrebu, ymysg eraill.

Mae hefyd wedi dal swyddi ar yr Uwch Bwyllgor Cymreig ac Uwch Bwyllgor Gogledd Iwerddon. Mae wedi gweithio ar Bwyllgorau Seneddol Plaid Lafur ('PLP') ar Faterion Cymreig, Tramor a Materion y Gymanwlad, Materion Cartref a Datblygiad Rhyngwladol. Ef hefyd oedd cynrychiolydd AS mainc cefn ar fwrdd Grŵp Monitro Ceisiadau Iechyd Glo dros Gymru. Mae wedi ymgyrchu ar nifer o faterion, gan gynnwys moderneiddio rheilffyrdd yng Nghymru, amddiffyn rhag llifogydd, a mynediad i gefn gwlad a'r arfordir.

Mae Irranca-Davies wedi siarad yn Nhŷ'r Cyffredin ar bynciau mor amrywiol â hawliau undeb masnach ryngwladol, pleidleisio gorfodol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, ynni adnewyddadwy a newid yn yr hinsawdd, masnach deg, cyfiawnder cymdeithasol a thlodi ac anghydraddoldeb.

Ym mis Mehefin 2005 daeth yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i Tessa Jowell, ar ôl gwasanaethu fel PPS cyn hynny i Jane Kennedy yn Swyddfa Gogledd Iwerddon. Mae wedi gwasanaethu fel PPS i Weinidogion yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Mae hefyd wedi gweithio fel is-Ysgrifennydd Seneddol Gwladol Cymru, ac fel Gweinidog yr Amgylchedd yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).

Rhwng Hydref 2010 a Hydref 2011, gwasanaethodd Irranca-Davies fel Gweinidog Ynni Cysgodol lle'r oedd yn arwain ymgyrch Llafur i amddiffyn y Feed-In Tariff ar gyfer ynni solar. Ym mis Hydref 2011, fe'i penodwyd fel y Gweinidog yr Wrthblaid ar Fwyd a Ffermio, lle'r oedd yn gweithio ar faterion ynghylch polisi bwyd, ffermio a materion gwledig (gan gynnwys ymestyn argaeledd band eang).

Roedd Irranca-Davies yn aelod o ystod eang o Grwpiau Hollbleidiol yn San Steffan, gan gynnwys y Grŵp Hollbleidiol ar gyfer y Cyngor Prydeinig (Is-gadeirydd), Grŵp Tsieina, Cyngor ar Bopeth, Glo Glân, Cymunedau Glofaol, Diwydiannau Ynni-Ddwys (Is-gadeirydd), Gweithgynhyrchu, Morwrol a Phorthladdoedd, Diwydiant Cysylltiedig â Dur a Metel, Plant yng Nghymru, Cysylltiad y Cyhoedd a Chleifion mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cyd-gadeirydd), Grŵp Prifysgol (Is-gadeirydd), a Dyfrffyrdd (Cyd-gadeirydd). Mae'n gwasanaethu fel Cadeirydd y Grŵp Hollbleidiol ar gyfer Cydnabod Gweithwyr Arfau sydd â'r nod o "weithio gyda'r llywodraeth i ddod o hyd i ffordd o adnabod rhai gweithwyr arfau a fu'n gwasanaethu yn ystod y rhyfel byd cyntaf a'r ail"[4]

Ar 19 Mehefin 2015, cyhoeddwyd ei fod wedi ei ethol i gadeiryddiaeth Pwyllgor Dethol Archwilio Amgylcheddol.[5]

Huw Irranca-Davies oedd un o 36 aelodau seneddol Llafur i enwebu Jeremy Corbyn fel ymgeisydd yn arweinyddiaeth y blaid Lafur yn etholiad 2015.[6]

Ei ddiwrnod olaf fel aelod seneddol oedd 24 Mawrth 2016.[7]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru golygu

Yn Hydref 2015 cyhoeddodd Huw Irranca-Davies ei ddymuniad i drosglwyddo o San Steffan i Fae Caerdydd. Ym mis Rhagfyr, cafodd ei ddewis i gystadlu am sedd Ogwr dros y Blaid Lafur yn Etholiad Cynulliad Cymru ar 5 Mai 2016.[8]

Bywyd personol golygu

Mae Irranca-Davies yn briod ac mae ganddo dri o feibion. Mae'n gefnogwr i nifer o chwaraeon, yn enwedig rygbi, ac yn mwynhau mynychu gemau rygbi ei fab yn ei amser rhydd.[3]

Gwobrau golygu

Yn 2005 cafodd ei enwi fel dyn mwya rhywiol Cymru gan y Western Mail.[9]

Yn 2011, roedd Irranca-Davies ar y rhestr fer am wobr gyntaf Seneddwr Chwaraeon y Flwyddyn, menter a gyflwynwyd gan y Sport and Recreation Alliance am y gwaith roedd wedi gwneud i hyrwyddo saethyddiaeth. Cafodd ei enwebu gan Archery GB ar ôl iddo gynnal y digwyddiad chwaraeon cyntaf erioed yn San Steffan ym mis Medi 2011.[10] Yn y digwyddiad, daeth aelodau seneddol ac arglwyddi at ei gilydd yn ogystal ag enillwyr medalau aur megis Nicky Hunt ar Speakers' Green am ddiwrnod wedi ei neilltuo i'r gamp.[11]

Ym mis Chwefror 2013 enwyd Irranca-Davies fel Aelod Seneddol y Mis gan Total Politics. Enillodd y wobr am ei waith yn sefyll i fyny dros ffermwyr a defnyddwyr yn etholaeth Ogwr ac ar draws y genedl drwy berswadio'r llywodraeth i wneud tro pedol ar y Ddeddf Groceries Code Adjudicator.[12]

Cyfeiriadau golygu

  1. London Gazette: no. 59418. p. 8746. 13 May 2010.
  2. http://www.bbc.com/news/uk-wales-politics-35885206
  3. 3.0 3.1 3.2 "About Huw" Archifwyd 2016-03-22 yn y Peiriant Wayback.. huwirranca-davies.org.
  4. "Recognition of Munitions Workers". All Party Groups. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 23 March 2015.
  5. "Winning candidates for select committee Chairs announced". UK Parliament. 18 June 2015. Cyrchwyd 19 June 2015.
  6. http://www.newstatesman.com/politics/2015/06/who-nominated-who-2015-labour-leadership-election
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-20. Cyrchwyd 2016-05-06.
  8. http://www.walesonline.co.uk/news/politics/huw-irranca-davies-selected-labour-10556645
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-07. Cyrchwyd 2016-05-06.
  10. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-15. Cyrchwyd 2016-05-06.
  11. http://www.bbc.co.uk/sport/0/archery/14801090
  12. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-12. Cyrchwyd 2016-05-06.

Dolenni allanol golygu