Huw Marshall

Arbennigwr cyfryngau digidol o Gymro

Mae Huw Marshall (ganwyd 28 Chwefror 1969)[1] yn arbenigwr marchnata digidol ac entrepreneur diwylliannol. Magwyd ef yn ardal Wrecsam ond mae bellach yn byw yng Nghwm Llyfni.

Huw Marshall
Ganwyd28 Chwefror 1969 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, person busnes, ymgynghorydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://marshall.cymru/ Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Ymgynghorydd golygu

Wedi gadael S4C dechreuodd Huw Marshall ei gwmni ymgynghori cyfryngol ei hun. Mae'n cynnig gwasanaeth cynghori, creu cynnwys a marchnata digidol.

Mae'n cadw blog[2] cyfredol ar ei wefan ar ddatblygiadau yn y maes.

S4C golygu

Bu'n gweithio i S4C yn gyfrifol am arwain gweithgaredd digidol S4C gan ddatblygu a gweithredu strategaeth ddigidol newydd ar gyfer y Sianel rhwng 2012-2016. Yn ystod ei gyfnod bu'n gyfrifol a chyd-lynu i ddatblygiad rhyngwyneb gwylio newydd ar-lein ar gyfer y sianel, cynyddu gweithgarwch y sianel ar rwydweithiau cymdeithasol a chomisiynu cynnwys newydd ar gyfer y gofod digidol gan gynnwys y sianel YouTube @5Pump.

Yr Awr Gymraeg golygu

Ers sefydlu’r awr Twitter Cymraeg gyntaf yn Nhachwedd 2012 @yrawrgymraeg mae Huw wedi bod yn weithgar yn amlygu defnydd o’r Gymraeg yn y byd digidol.

Fe lansiodd Awr Cymru yn Awst 2016 er mwyn cynyddu ymhellach y defnydd o’r Gymraeg yn ddigidol.

Gemau Cymru golygu

Mae hefyd yn gadeirydd ar Gemau Cymru, y corff sy’n goruchwylio’r diwydiant gemau cyfrifiadurol yng Nghymru ac mae hefyd yn aelod o’r CADC, Cyngor Addysgu Digidol Cymru, y corff sy’n ymgynghori’r gweinidog addysg ar y defnydd o ddigidol o fewn y gofod addysg yng Nghymru.

Gwleidyddiaeth golygu

Mae Huw Marshall wedi sefyll fel ymgeisydd dros Blaid Cymru sawl gwaith gan gynnwys:

  • Etholiad Cyffredinol 1992 - De Caerdydd
  • Etholiad Cyffredinol y DU 2017 - Ogwr

Yn 2017 nododd Huw Marshall y byddai "problem ymddiriedaeth" gan y Cynulliad petai'n ceisio bod yn destun cynnwys a chyflwyno newyddion amdano.[3]

Actio golygu

Bu Huw yn actio mewn sawl cyfres deledu ar S4C gan gynnwys Emyn Roc a Rôl, drama ysgafn am grŵp roc Cymraeg yn yr 1980au. Bu hefyd yn actio yn y gyfres ddrama, Tipyn o Stâd.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu