Seiclwr proffesiynol yw Huw Pritchard (ganed 7 Ionawr 1976 yng Nghaerdydd, Cymru). Rasiodd dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 1998 yn Kuala Lumpur ac eto ym Manceinion yn 2002. Enillodd y fedal arian yn y Ras Scratch 20 km, y Cymro cyntaf erioed i ennill medal ar y Trac yn y Gemau.

Huw Pritchard
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnHuw Pritchard
Dyddiad geni7 Ionawr 1976
Manylion timau
DisgyblaethFfordd a trac
RôlReidiwr
Tîm(au) Proffesiynol
2000
2002–2003
Linda McCartney Foods
Angliasport
Golygwyd ddiwethaf ar
11 Gorffennaf, 2007

Canlyniadau golygu

Trac golygu

1999
1af Scratch 20km, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2il Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2002
2il Madison Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda Kieran Page o dîm SP Systems)
2il Ras Scratch 20km, Gemau'r Gymanwlad ym Manceinion
4ydd Ras Bwyntiau, Gemau'r Gymanwlad ym Manceinion
4ydd Pursuit Tîm 4000m, mewn amser o 4m25.029 Gemau'r Gymanwlad ym Manceinion (gyda Paul Sheppard, Will Wright, Joby Ingram-Dodd)
2003
1af Madison Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda James Taylor o glwb City of Edinburgh)

Ffordd golygu

1997
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ffordd Prydain Iau
1999
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Cymru
2000
1af Stage 7 Tour of Serbia
2il Lancaster Mercedes GP
3ydd Archer GP
2003
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Cymru

Dolenni allanol golygu

[1] Archifwyd 2007-02-26 yn y Peiriant Wayback. Proffil ar wefan Gemau'r Gymanwlad 2002



   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.