Awdur rhamantau Ffrangeg-Normanaidd oedd Huw o Ruddlan neu Huon[1] neu Hue de Rotelande (bl. 1180 - 1190). Un o Normaniaid y Mers oedd o. Yn ôl pob tebyg bu'n byw yn Rhuddlan yn ei ieuenctid cyn symud i fyw i ardal Credenhill, ger Henffordd.[2]

Ganed Huw rhywbryd cyn tua 1160. Ysgrifennodd dwy ramant ar gerdd yn y cyfnod 1180-1190, sef Ipomedon a'i dilyniant Protesilaus. Ymddengys mai Gilbert Fitz-Baderon, arglwydd Normanaidd Mynwy, oedd ei noddwr gan fod y ddwy gerdd wedi eu cyfansoddi "er difyrrwch" iddo.[3]

Cefndir Groegaidd Clasurol sydd i'r ddwy gerdd, a leolir yn ne'r Eidal a Sisilia.[4] Y brif thema yw anturiaethau'r marchog Ipomedon, ond ceir cyfeiriadau cynnil at ddau Gymro cyfoes hefyd, sef "y Brenin Ris" (Yr Arglwydd Rhys efallai) a'r llenor Lladin o ddeau Cymru, Gwallter Map (Walter Map).[3]

Llyfryddiaeth golygu

  • A. J. Holden (gol.), Ipomedon (1975).

Cyfeiriadau golygu

  1. Paul Harvey a J. E. Heseltine, The Oxford Companion to French Literature (Rhydychen, 1969), tud. 353.
  2. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  3. 3.0 3.1 Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  4. The Oxford Companion to French Literature, tud. 353.