Hwyaden gopog

rhywogaeth o adar
Hwyaden Gopog
Ceiliog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Aythya
Rhywogaeth: A. fuligula
Enw deuenwol
Aythya fuligula
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Hwyaden Gopog (Aythya fuligula) yn un o deulu'r hwyaid trochi ac yn aderyn niferus yn rhannau gogleddol Ewrop ac Asia.

Mae'r ceiliog yn aderyn hawdd ei adnabod, gyda plu du heblaw am yr ochrau, sy'n wyn. Mae'r pig yn llwydlas ac mae plu hir ar y pen sy'n rhoi ei enw i'r aderyn yma. Brown yw'r iar, gyda brown goleuach ar yr ochrau. Mae gan rai o'r ieir rywfaint o wyn o gwmpas bôn y pig.

Mae'n nythu ar lannau llynnoedd neu gorsydd lle mae digon o dyfiant i guddio'r nyth. Mae'n aderyn mudol lle mae'r gaeafau'n weddol oer, yn symud tua'r de neu tua'r gorllewin. Ambell dro gellir gweld cannoedd o adar gyda'i gilydd ar lynnoedd mawr yn y gaeaf.

Yng Nghymru mae cryn nifer yn nythu, a llawer mwy o adar yn symud i mewn i dreulio'r gaeaf.

Iâr
Aythya fuligula